Wel yr ateb ydy Bryan Orritt, un o hogia Dre. Roedd Bryan yn aelod o dîm Birmingham City a chwaraeodd yn ffeinal yr Inter Cities Fairs Cup ym 1961 yn erbyn Roma. Gemau dau gymal oedd y rheiny ers talwm ac yn y cymal cyntaf yn Birmingham sgoriodd Bryan ail gol ei dîm. Yn anffodus fe sgoriodd Manfredini ddwy i Roma hefyd, ac yn waeth byth yr Eidalwyr enillodd yn Rhufain o ddwy gôl i ddim. Gadawodd Bryan Orritt Ysgol Syr Hugh Owen yn 15 oed i fod yn brentis ffitar yn Saunders Roe ym Miwmares. Chwaraeodd i Lanfairpwll yn 15 oed cyn ymuno â Bangor fel amatur ym 1953. Yn ddeunaw oed ymunodd yn llawn amser â Birmingham. Chwaraeodd deirgwaith i dîm dan 21 Cymru gan sgorio'r unig gôl yn y gêm gynta erioed i'r oedran hwnnw yn erbyn Lloegr. Yr ail gêm oedd honno yn erbyn yr Alban. Un gôl yr un - Bryan yn sgorio eto. Wedi 5 mlynedd yn Birmingham symudodd i Middlesborough cyn i anaf drwg ei anfon i Durban, De Affrica ym 1966. Ac yn Ne Affrica y mae o heddiw, yn byw yn Johannesburgh.
|