Ond be'n union sy'n digwydd? Mae rhai'n dweud bod y cyngor wedi llwyddo i wneud be fethodd y Normaniaid - rhwystro'r Cymry rhag
dod i ganol y Dre i fasnachu!
Ydi hynny'n sylw teg? Dyma oedd gan lefarydd ar ran Cyngor Gwynedd i'w ddweud:
"Fel rhan o'r cynlluniau cyffrous ar gyfer ailddatblygu'r Maes, mae angen addasu rhywfaint ar lif traffig yn y dref.
Mae'n debyg mai'r prif newid yw addasu rhan o Stryd Bangor
(sef rhwng Penllyn a'r Llyfrgell) a'i gwneud yn stryd unffordd.
Maes o law gobeithir y bydd y newidiadau hyn yn:
1. Tynnu traffig diangen o Stryd Bangor a chanol y dref.
2. Lleihau gwrthdaro rhwng cerbydau a cherddwyr yn yr ardal.
3. Gwella llif traffig yn y dref drwy gael gwared a'r goleuadau tair ffordd ar waelod Penllyn.
4. Rhyddhau lle ar Stryd Bangor ar gyfer gwelliannau pellach (byddwn yn ystyried cyfleoedd i ddarparu mannau parcio ar y stryd er enghraifft).
"Bydd y Cyngor yn monitro'r sefyllfa yn ofalus dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn gwneud pob ymdrech i leihau unrhyw anhwylustod ac i gwblhau'r gwaith cyn gynted a phosib, ac yn hyderus y bydd y gwelliannau hyn yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd y dref."
Ond tybia rhai y gall hyn olygu y bydd 'na lawer mwy o draffig yn dod heibio'r maes parcio aml-lawr ac Argos - felly, fydd y bysus yn aros yno? Mae 'na botensial am lanast go iawn!
Canlyniad arall posib i'r newidiadau ydi y gall 'na lawer mwy o draffig fynd o dan Wetherspoons am faes parcio Tanybont ac, fel y gŵyr pawb - does 'na'm lle yn fan'no i ddau gar fynd heibio'i gilydd.
Cawn weld. Efallai mai codi bwganod ydi hyn i gyd ac y
bydd pethau'n gwella, fel y gobeithia'r Cyngor - o leia mae nhw'n trio g'neud rhywbeth.
|