´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Phil, mab Haydn, Haydn a Wyn Davies Hel i Haydn
Mehefin 2007
Cafwyd dwy noson werth chweil fel teyrnged i yrfa Haydn Jones.
Fe ddaeth dros bum cant i'r Oval ar gyfer gêm dysteb i'r cyn-beldroediwr, sydd bellach yn dioddef o glefyd motor neuron.

Chwaraeodd tîm cyfansawdd Bangor / Rhyl yn erbyn Caernarfon / Porthmadog (ac un neu ddau o Bwllheli!)

Roedd Haydn wedi chwarae i'r pum clwb yn ystod ei yrfa. Cafodd gyfnodau ym Methesda a Wrecsam hefyd.

Haydn a hogiau Dre a'r cyffiniau Cafwyd ymwelydd annisgwyl i'r Oval ar gyfer y gêm dysteb hefyd, Wyn Davies, y Cofi a chwaraeodd i Nescastle, Man Utd, man City a Chymru (yn y llun uchod gyda Haydn a Phil, mab Haydn).

Addas iawn oedd hi felly mai Joey Jones, cyn-gefnwr Wrecsam, Lerpwl a Chymru oedd y gwr gwadd mewn cinio arbennig a gynhaliwyd yng Ngwesty Meifod wythnos yn ddiweddarach.

Fe ddaeth bron i dri chant ynghyd i glywed Joey'n hel atgofion am ei ddyddiau ar y cae Ras ac Anfield. Yn cadw cwmni iddo roedd dau o bêl-droedwyr enwoca Caernarfon, y brodyr Ernie a Tom Whalley.

Yn anffodus chafodd Haydn ei hun ddim bod yn bresennol yn y cinio. Aethpwyd ag ef i'r ysbyty rai dyddiau cyn hynny ond mae'n dda dweud ei fod yn ôl yn cerdded strydoedd y Dre erbyn hyn.

Hoffai trefnwyr y ddwy noson ddiolch o galon i bawb gyfrannodd at eu llwyddiant. Rhennir yr arian a gasglwyd rhwng Haydn, Ymchwil Cancr a Chymdeithas Motor Neuron.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý