Safai Moreia yn urddasol ym Mhenrallt Isaf, lle mae swyddfeydd Ffilmiau'r Nant heddiw.
Ond yn oriau man y bore ar Orffennaf 9fed 1976 cynheuodd y fflamau a llosgi capel y Methodistiaid Calfinaidd i'r llawr.
Mae Holland Roberts a'i nai John Watkins, sy'n byw ym Mhenrallt Isaf, yn cofio'r digwyddiad. Mae Holland Roberts yn cofio sylwi fod rhywbeth o'i le gyda'r nos ar Orffennaf 8fed.
"Dwi'n cofio'r wraig yn mynd i'r drws ffrynt, roedd rhywun wedi dod yma i drin y teledu, ac mi ddywedodd o fod yna oglau mwg o gwmpas, ac fe edrychon ni ar y tÅ· ond doedden ni ddim yn gweld dim o'i le," meddai.
"Y noson honno y cyneuodd y tân, mi fu'n llosgi am oriau ac aeth y lle'n wenfflam."
Er mai dim ond chwech oed oedd John Watkins adeg y tân mae'n cofio'r digwyddiad yn glir.
"Mae'n un o'r pethau cynharaf dwi'n ei gofio," meddai. "Roeddwn i'n chwech oed ac yn cael te parti ar ddiwrnod y tan ... y noson honno dwi'n cofio cael fy neffro ac roedden nhw'n symud pawb o'r stryd.
"Roedd fy nhad wedi cael ei ddeffro, roedd sŵn lleisiau ac injan dân y tu allan, mi aeth i weld beth oedd yn digwydd ac mi welodd y tân.
"Ar ôl cael fy neffro mi es i'r ffenest gefn a dwi'n cofio gweld fflamau ar siâp croes gan fod ffrâm ffenest y capel ar dân."
Yn ogystal â diffoddwyr tan y dre daeth rhai yma o Fangor, Llanfairfechan, Pwllheli a Llanberis.
Wrth i'r capel losgi roedd pryder am y tai cyfagos a symudwyd trigolion y stryd o'u cartrefi rhag ofn y byddai'r fflamau'n lledaenu.
"Roedden ni'n cael bod o gwmpas y stryd, yn cael dod i mewn ac allan o'n tai ond nid cysgu yno... dwi'n eu cofio nhw'n dal peipen o ddŵr yn erbyn talcen y tŷ^ pen," meddai John Watkins.
Mae'r ddau hefyd yn cofio i ddiffoddwr tân gael ei anafu wrth geisio diffodd y fflamau.
"Mi frifodd un dyn tân o Fangor, roedd plwm o'r to wedi disgyn, mi ddisgynnodd i'w wisg a disgynnodd y dyn oddi ar yr ysgol. Dwi'n cofio mynd i'w weld i'r ysbyty," meddai John Watkins.
Pan wawriodd y bore wedyn roedd y difrod i'w weld yn glir a dim ond cragen llawn mwg a lludw oedd i'w weld.
Collwyd yr organ arbennig er mawr ofid i organydd y capel, Peleg Williams, ond llwyddwyd i achub y tÅ·^ capel a'r festri.
"Roedd yn sioc fawr i weld y llanast," meddai Holland Roberts. "Roedd yna fwlch mawr yma wedi'r tân, roedd yn adeilad mor fawr."
"Ar ôl bod ar ei draed drwy'r nos mae John Watkins yn cofio cael mynd i'w wely yn y bore.
"Ond doeddwn i ddim yn gallu cysgu... roeddwn i dal i deimlo'r ofn," meddai.
"Dwi'n dal i feddwl am y tân, mae'r amser wedi mynd mor sydyn ond mae'r atgofion mor fyw â phetai wedi digwydd yr wythnos ddiwethaf'.
"Mae llawer o sôn am y tân o hyd a phawb yn cysylltu'n stryd ni â'r capel."