Un enghraifft yw'r hyn sydd uwchben y brif fynedfa i Gastell Caernarfon, sef Porth y Brenin, ac o gofio mai Edward I a orchmynnodd adeiladu'r castell yn 1283, hawdd maddau i unrhyw un am feddwl mai ar ei 么l ef y cafodd y Porth yr enw. Ond, y gwir yw nad felly y bu. Enwyd ef ar 么l ei fab, Edward II y dywedir iddo gael ei eni yn y dref yn 1284 ac a adnabyddid fel 'Edward of Carnarvon.' Cwblhawyd y drydedd ran o'r gwaith adeiladu rhwng 1315 a 1322 ac, yn y flwyddyn 1320, gosodwyd cerflun o Edward II uwchben Porth y Brenin.
Erbyn heddiw, mae 700 mlynedd o draul wedi gadael ei 么l arno a'r wyneb wedi treulio. Diflannodd, hefyd y deuddeg darn o haearn a osodwyd uwch ei ben i fod yn rhwystr i adar rhag clwydo ar ben Ei Fawrhydi, a phrin y gellir gweld fod y brenin 芒'i law ar garn ei gledd, un ai yn ei weinio neu yn ei dynnu o'r wain. Symbol o heddwch neu o fygythiad, ond amhosib dweud pa un.
Adeiladwyd y muriau sydd o amgylch y dref yn fuan ar 么l cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r castell ac, wrth gerdded yn hamddenol ar hyd y Cei, rwyn si诺r bod rhai ohonoch wedi sylwi ar gerrig wedi eu gosod ar ffurf bwa ar waelod y muriau. Maent yn ymddangos fel pe baent wedi bod uwchben drysau rhywbryd mewn hen oes ac eto maent bron yn wastad 芒'r llawr.
Un stori yn mynd o gwmpas pan oeddwn i yn blentyn oedd mai trwy ddrysau o dan y b诺au hyn yr arferai smyglwyr ddod 芒'u nwyddau yn anghyfreithlon i mewn i'r dref gaerog. Roedd y syniad rhamantus hwn yn apelio'n fawr atom ni'r plant, ond prin fod neb yn credu hynny erbyn heddiw.
Ymhen blynyddoedd lawer y deuthum i wybod beth oedd gwir arwyddoc芒d y b诺au hyn. Roedd hi'n gryn gamp gosod sylfaen mewn tir mor wlyb i adeiladwyr y 13 a 14eg ganrif. Ond doedd dim a safai yn eu ffordd.
Yr hyn a wnaed yn y Cei Mawr, yn ymyl lle mae Eglwys St. Mair ac mewn rhannau eraill o furiau'r dref sy'n wynebu ar Afon Menai, oedd suddo, yng ngeiriau'r hanesydd -"massive oaken piles" i greu sylfaen, ac yna codi'r b诺au ac adeiladu'r mur uwch eu pennau. Mae'n ffaith wyddonol, yn 么l a ddeallaf, bod mwy o gryfder yn y rhannau o'r mur sydd ar ffurf bwa na chyda'r cerrig wedi eu gosod un ar ben y llall. Ond sut, mewn difri, y gwyddai adeiladwyr yr oes honno bod hynny'n wir?
Man arall lle mae rhywun yn dueddol o fynd heibio heb sylwi ar garreg lwyd gydag ysgrifen arni, yw yn ymyl lle mae terfyn Wal y Dref rhwng Stryd Twll yn y Wal a Thanybont. Codwyd y garreg hon i gofio am haelioni Owen Jones, Glan Beuno, yn talu am ddymchwel dwy siop i'r dde o Wal y Dref a chyflwyno'r tir i'r Maer a Bwrgeisi Tref Caernarfon ac i ddangos eu gwerthfawrogiad cyflwynwyd Rhyddfraint Tref Caernarfon iddo yn 1918.
Yn 1919 derbyniodd wahoddiad gan aelodau'r Cyngor i fod yn Faer y Dref, a hynny er nad oedd yn aelod o'r Cyngor ar y pryd nac yn byw o fewn ffiniau'r dref. Yn ystod ei Faeroliaeth gwnaeth gymwynas fawr arall 芒 Chaernarfon. Fel Rhyddfrydwr amlwg ac edmygydd o'r Prif weinidog ar y pryd, Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George, talodd am wneud cerflun, 8 troedfedd a 10 modfedd mewn efydd o'r gwladweinydd. Y cerflunydd oedd Syr W. Goscombe-John R.A., ac ar y Sadwrn, Awst. 6 1921, dadorchuddiodd Mr. William M. Hughes, Prif weinidog Awstralia, y cerflun ar y safle gyferbyn 芒 Phorth Y Frenhines Elinor. Roedd Mr. Hughes yn Gymro Cymraeg a anwyd yn Llandudno ac yn gyfaill mawr i Lloyd George adeg y Rhyfel Mawr.
Wel, dyna dair enghraifft sy'n dangos yn eglur pa mor bwysig yw sylwi ar bethau wrth fynd o gwmpas y dref. Felly, os bydd rhai ohonoch, ar 么l dod i ddeall bod yna hanes i'r enghreifftiau a roddwyd, yn gwybod am rai tebyg, yna anfonwch i Papur Dre i rannu'r wybodaeth fel y down i gyd i adnabod ein tref yn well.
T Meirion Hughes