´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Emrys Owen Penblwydd H..a..a..apus
Mehefin 2006
Mae 'na ffyrdd digon od o ddathlu pen-blwyddi y dyddiau yma. Ond nid pawb fyddai'n codi am bump ar fore Llun, hedfan i Seland Newydd am ddiwrnod, neidio 600 troedfedd oddi ar skyscraper ac yna hedfan yn syth adra.

Dyna wnaeth Emrys Owen, rheolwr y Black Boy i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.

Roedd Emrys wedi bod yn Seland Newydd y llynedd yn dilyn taith rygbi'r Llewod ond, a'i fraich mewn sling ar 61 torri pont ei ysgwydd, methodd a chyflawni ei ddymuniad i neidio oddi ar yr Auckland Sky Tower.

Felly dyma benderfynu picio i ben draw'r byd i wireddu'r freuddwyd a dathlu ei ben-blwydd yr un pryd.

Rhyw gwta ddiwrnod a hanner fuodd Emrys yn Seland Newydd ac fe dreuliodd bron i ddwy awr o'i amser prin yn esbonio i'r swyddogion tollau pam ei fod yno am gyn lleied!

Fe fwynhaodd Emrys y profiad cymaint fel ei fod yn ystyried gwneud rhywbeth 'dwl' i ddathlu ei ben-blwydd bob blwyddyn o hyn ymlaen.

Vladivostock am y dydd flwyddyn nesa efallai?!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý