Mi ddaeth y syniad i gychwyn cwmni GISDA (Grwp leuenctid Sengl Digartref Arfon) yn 1985 gan griw bach lleol oedd yn poeni am nifer y bobl ifanc yng Nghaernarfon oedd heb do uwch eu pennau ac angen help.
Diolch i ymdrechion y pwyllgor gwreiddiol, mi agorodd GISDA ei hostel cynta yn Lôn Parc, Caernarfon, yn 1989.
Heddiw, mae wyth o bobl ifanc yn cael lloches yno ac mae gan y cwmni 30 aelod o staff sydd, erbyn hyn, yn gweithio drwy Wynedd gyfan.
Mae ganddyn nhw hostel arall ym Mlaenau Ffestiniog a nifer o gynlluniau i helpu pobl ifanc sengl Gwynedd, sydd angen help i ddod o hyd i le i fyw, hawlio budd-daliadau, llenwi ffurflenni, dysgu sgiliau a chael addysg a hyfforddiant.
Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed - gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n iau na 18 oed - sydd angen help i gael lle i fyw am nifer o wahanol resymau, fel problemau neu drais yn y cartref, beichiogrwydd, tlodi a diweithdra.
"Mae rhai yn dod aton ni jest drwy droi i fyny a churo ar y drws, ac mae eraill yn cael eu cyfeirio aton ni gan asiantaethau,' meddai'r prif swyddog, Mair Richards.
"Ac mae ganddon ni linell ffôn sydd ar agor 24 awr - (01286) 671153 - y gall unrhyw un ei ffonio am gyngor neu ddim ond i siarad."
Ond mae'r pwyllgor yn awyddus i bwysleisio mai nodi'r achlysur fyddan nhw, nid ei ddathlu.
"Cofnodi'r pen-blwydd fyddan ni. Dim dathlu ydy'r gair iawn: cofio ba broblem yn dal i fodoli,' meddai Bobby Haines, un o aelodau gwreiddiol pwyllgor a sefydlodd cwmni.
"Tydan ni ddim yn obeithiol ei bod am ddarfod chwaith: os rwbath mae'r broblem yn waeth heddiw nag oedd hi 21 mlynedd yn ôl."
Ond, er bod gwaith y cwmni cynyddu, ynghyd â maint y broblem, mae GISDA yn brin o aelodau ac yn apelio am wirfoddolwyr i ymuno a'u pwyllgor rheoli.
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb ngwaith y cwmni ac ychydig oriau bob mis i'w sbario fel aelod o'r pwyllgor, cysylltwch a Mair Richards ar (01286) 671153.