Gweithio i gwmni Ross Hughes y mae Darren ers dwy flynedd. Ac yn y cyfnod hwnnw mae o wedi gosod carpedi Yn yr Alban, Lloegr a Chaerdydd (ddwywaith). Ers ei sefydlu chw mlynedd yn 么l mae'r cwmni wedi gweithio dramor hefyd yn Ffrainc a'r Almaen. "Dan ni'n cael lot o waith mewn parciau gwylia," meddai Billi Ross, cyd-sylfaenydd y cwmni gydag Alwyn Hughes o Benisarwaun. "Naethon ni job reit fawr ym Morfa Bychan, er enghraifft. Roedd gan y cwmni hwnnw wersyll gwyliau yn Dorset, felly ffwr' 芒 ni i fan'no. Rhyw belan eira fel'a ydi hi.". Hogyn o Dre ydi Billy, wedi'i eni a'i fagu yng Ngae'r Saint. Dysgodd werthu a gosod carpedi yn siop Nelson dros ugain mlynedd yn 么l ac mae'n credu'n gryf y dylai bechgyn lleol, fel yntau, fynd ati i ddysgu crefft. "Compiwtars ydi bob dim dyddia' yma. Dym byd yn 'u herbyn nhw, ond dwi'n deud wrthat ti mi fydd 'na brinder ofnadwy o grefftwyr yn o fuan. Fydd gynno' ni'm seiri na phlymars na phlastrwrs os na watsiwn ni," meddai. Ac mae'n rhaid i ni 'u tr锚nio nhw ein hunain". Gall prentisiaeth gosod carped gymryd hyd at bum mlynedd. Mae 'na bedwar o hogia' Dre ar y funud (i gyd o Syr Hugh) yn dysgu'u crefft efo Billy ac Alwyn." "'Dan ni'n cael lot o hyfforddiant, gan y ffitars profiadol yn bennaf", meddai Darren. Ac mae'r tystysgrifau ar wal siop newydd y cwmni yn Cibyn (a agorwyd yn ddiweddar gan Bryn Terfel) yn profi hynny. Un ar bymtheg sy'n gweithio i Ross Hughes, naw ohonyn nhw o dre' Caernarfon ei hun a'r gweddill o Waunfawr, Bontnewydd a phentrefi cyfagos.
|