Ac mi fysa George Denham, y Cadeirydd, yn licio diolch i bob un wan jac o'r hogia - dros 40 ohonyn nhw - helpodd i gyflawni'r dasg gan godi £9,000 i'r Caneris. 'Roedd hi'n wsnos galed,' meddai George "ond gawson ni lot o hwyl, a dwi'n ddiolchgar iawn i bawb." Gofalai'r hogia am dri maes parcio ac roedd yr oriau yn hir ar brydiau. Ond roedd y Steddfod a'r Pwyllgor Technegol (a'r heddlu) yn hynod o fodlon efo'u gwaith. Ac mae na ddynes 74 oed o'r De yn hynod o falch fod gan George cwad beic. Roedd hi'n methu'n glir a dod o hyd i'w char. O ganlyniad, un o olygfeydd difyrra'r meysydd parcio dros yr ŵyl oedd Dafydd Denham a gwraig dros ei deg a phedwar ugain ar y cwad yn gyrru rownd y Faenol yn chwilio am ei char. Daethpwyd o hyd i hwnnw yn ddidrafferth. Nid felly gar gŵr nid anenwog o Gaernarfon. Gymrodd hi bedair awr i ffendio ei gar o. Roedd o'n chwilio yn y maes parcio anghywir!
|