Cawl oedd y bwyd cawl o fwyd m么r wrth gwrs. Fedra i ddim dioddef bwyd m么r mae'n codi rash, mygodd, llygaid yn chwyddo a chosi, a chur pen arnaf. Yr wyf hefyd, diolch am hynny, yn cas谩u ei flas. Wel doedd dim arall i'w gael a doedd fiw pechu yn erbyn pobl y pentref, felly bu rhaid ei fwyta. Credaf mai dwr m么r wedi ei how gynhesu oedd, a phob math ar ddarnau rhyfeddol o bysgod ac ymlusgiaid y m么r wedi hanner marw ynddo. Efallai fy mod yn gorliwio ychydig bach, ond wir, yr oedd y darnau fel pe baent yn ymladd i nofio yn y pwll heli. Tydi cyri pennau pysgod pobl ddlawd Bangladesh ddim yn hawdd i'w fwyta 'chwaith, ac mae llyfu ceg a gofyn am ail blatiad yn anodd, er dwi wedi gorfod gwneud. Ond dyna fo, bwyd pobl dlawd iawn ydyw'r ddau a rhaid dangos parch.
Beth am fwyd ein pobl dlawd ni ein hunain, pan oedd miloedd o bobl Cymru'n dlawd go iawn. Arferai nhad ddweud na fu 'rioed un dim mor flasus a bechdan ddripin ei fam. Gan ei fod yn un o dri ar ddeg o blant, 'roedd yn wyrth eu bod yn cael bechdan ddripin reit siwr. Mae ein cegau ni wedi eu hen ddifetha hefo bwydydd a gormod o flas arnynt, a phob mathau o gemegolion afiach hefyd.
Bara Cwrw oedd ffefryn un o'm neiniau, yn y dyddiau pan oedd mynd ar Faidd yr I芒r, sef gloywon llaeth ar 么l tynnu'r caws ohono. Cnocid wy yn ei lygad, ynghyd 芒 siwgr, neu f锚l, a bara a dwr neu lefrith iddo fynd ymhellach. Yr oedd bechdan jam yn dr卯t, a phan oeddwn yn blentyn bach, ni fyddai plant drwg mewn llyfrau a chomics, byth yn dwyn fferis na bisgedi o'r cwpwrdd, ond llwyeidio jam neu siwgr i'w cegau bach barus, hen-ffasiwn. Hoffai fy mam fechan siwgwr, a bechdan bara ceirch, a finnau fechdan bys (pys clwt).
Beth am yr erchyll ryset hwn o lyfr 'cwrci' fy mam yn y Cownti ers dalwm tua 1929.
Griwal i Rywun Gwael
Llwy fwrdd o flawd ceirch
Peint o ddwr
Siwgr neu halen
Berwi'r dwr, a chymysgu'r ceirch efo mymryn arall o ddwr oer cyn ei roi yn y dwr berw a'i ferwi a'i droi am tua deng munud, yna rhoi'r halen neu siwgr ynddo a'i dywallt i bowlen l芒n, gyda phwyslais ar y gl芒n. Wn i ddim os credai Lilian Gibb (Advanced Cookery Diploma) fod genod bach ysgol yr oes yn dod o gartrefi budron ai peidio.
Mae rhai pobl yn hoff o draed moch wedi eu berwi, a phrin y gallaf feddwl am ddim gwaeth sydd ddim o'r m么r. Er, ces draed ieir wedi eu berwi unwaith, mewn caffi ym Malaysia. Roedd croen y fferau a'r traed yn bigau bach croen gwydd, melyn drostynt.
Cefais damaid bach (iawn) o grocodeil ac estrys yn ddiweddar, a 'doedd rheini ddim mor ddrwg. Mae ein lobsgws heddiw'n flasus, ond go dila fyddai un dall, heb gig gan y tlodion ers dalwm. Mae Mis Ebrill yn fis oen - pethau blasus sydd gen i rwan - a does dim tebyg i rag o oen hefo garlleg a rhosmari. Mae rhosmari mor hawdd i'w dyfu dim ond t'rawo coesyn bach ohono yn y pridd a mi ddaw. Pan welaf i dwll gwag yn yr ardd, byddaf yn sdicio sbrigyn yno a chaf lwyn yn bur sydyn. Tatws newydd a moron a chabeitsian efo fo a grefi oen yn ei foddi.
Gwenllian Jones