Mae'n debyg bod cwestiynau ystrydebol yn rhan o'i fywyd bob dydd ac mae'r dyn sydd â phersonoliaeth 'run maint a'i gorffolaeth wedi datblygu ei ffordd ddihafal ei hun o ddelio â nhw. Os oes rhywun yn ei stilio pa mor hir fydd y tacsi, er enghraifft, ei ateb bob tro ydy - 'tua saith troedfedd!' Chwerthin mawr wedyn a'r cwsmer yn deall yn syth mai dipyn o dynnwr coes ydy Dyl. Dro arall, wrth roi pas i rywun i'r Dre, rhoddodd y cwsmer bamffled iddo yn gofyn a oedd o'n gwybod y ffordd i'r nefoedd. Atebodd Dyl nad oedd o'n siŵr iawn, ond gan fod y lle reit bell, gwell iddo fesur y daith ar y meter! Ella bod y nefoedd braidd yn bell, ond tydy Dyl ddim yn un am wrthod unrhyw drip - waeth i ble fyddai'r daith yn mynd ag o. Fel mae'r faner enwog sydd ganddo wrth gefnogi tîm pêl-droed Cymru ym mhellafoedd byd yn ddatgan - 'No Fare Too Far!' Gofynnodd PAPUR DRE i'r cefnogwr brwd beth fyddai yn ei ddweud wrth John Toshack petai rheolwr Cymru yn eistedd yn nghefn ei dacsi. 'Deud wrtho fo i 'neud mêts efo Robbie Savage,' oedd yr ateb diymdroi. Gwarchod buddiannau ei ffrindia? Ella wir - pan mae Savage yn Dre, tacsi Dyl mae o'n ei ddefnyddio bob tro - a'r ddau mae'n debyg yn rhannu straeon am dripiau i lefydd fel Rwsia ac Azerbaijan! Os ydych chi'n awyddus i ddefnyddio'r un cwmni tacsi â Robbie Savage , does dim rhaid i chi edrych yn bell. Mae tacsi Dyl yn wahanol iawn, ac yn profi bod hiwmor wedi bod yn elfen bwysig o'i ddeng mlynedd y tu ôl i'r olwyn. Cymerwch rif y car i ddechrau LlO DYL, neu 'Llo Dyl' fel y mae Malcolm Siop Twtil yn ei fynnu! A beth am y teganau wedyn? Mae silff flaen y car yn flith draphlith o dedis o bob math - o Minnie Mouse i'r Hen Fenyw Gymreig. Un chwadan felen yn anrheg gan un o'i gwsmeriaid oedd dechrau petha ac ymhen dim, roedd llwythi o bobol yn dod a thedis yn ôl o'ugwyliau i ychwanegu at y teulu bach! Felly os ydych chi'n mynd ar eich gwyliau eleni, mi fydd o'n disgwyl i chi ddod â rhywbeth bach yn ôl iddo! Er, peidiwch â mynd dros ben llestri efo'r tedis chwaith - os bydd o'n derbyn llawer mwy, beryg y bydd yn rhaid iddo brynu ail dacsi!
|