Fel rheol roedd ffair i'r plant wrth ymyl y Clwb Hwylio a phawb yn mwynhau gweld Dawnswyr y Gelli oedd wedi eu hyfforddi gan Karen Pritchard yn eu dillad lliwgar.
Roedd aelodau'r pwyllgor yn brysur yn codi'r stondinau ac yn gwneud paned.
Ar stondin yr NSPCC dywedodd Mrs Brenda Jones Ffordd Marchlyn, "Wrth ddarllen hanes John Flynn yn "Pobol Dre" daeth atgofion o'm plentyndod gan i mi glywed mam yn sôn llawer am y tân yn Lon Crwyn a'r hogan fach yn llosgi i farwolaeth.
"Mi fyddai yn edrych ymlaen am ddarllen PAPUR DRE bob mis."
|