Gair o ddiolch ydoedd i Adam, sy'n 6 oed, am y ffordd y cyflwynodd blac ac arno Arfbais Caernarfon iddo. Dewisiwyd Adam gan y cyn-Faer Roy Owen, i gyflawni'r gwaith hwn ar ran plant Tref Caernarfon. Tynnodd y gweinidog amryw o luniau o Adam, a edrychai yn hynod smart mewn siwt, a mawr oedd ei edmygedd ohono am ei ymddygiad gydol y dydd pan dderbyniodd groeso dinesig yn y Castell. Roedd Adam hefyd i'w weld yn berffaith gysurus yng nghwmni'r ymwelydd pwysig o dramor. Pwrpas yr ymweliad oedd i fynegi diolchiadau Sri Lanka i bobl tref Caernarfon am gyfrannu mor hael i'r gronfa a sefydlwyd yn dilyn trychineb y Tsunami ar ddydd Sant Steffan llynedd. Gyda'r gweinidog oedd ei ymgynghorydd, Mr. S. N. Kumar, a'i gynorthwywr personol, Mr Roshar Akthar, ac yn cynrychioli'r sir a'r dref oedd: Cadeirydd Sir Gwynedd, Maer a Maeres Tref Frenhinol Caernarfon, ynghyd ag aelodau o'r Cyngor Tref a Chadeirydd Siambr Fasnach y Dref.
|