´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Osian ar y Morfa Osian yn Oz
Mawrth 2009
Osian Williams, hyfforddwr ffitrwydd tîm rygbi Dre ers tair blynedd, newydd ddod adra o Awstralia.

Tra roedd o draw yn Perth mi gafodd wythnos o waith gyda Chlwb Rygbi Rhanbarthol Western Force, sydd yn chwarae yng nghystadleuaeth y Super 14, ac yn cynnwys 7 chwaraewr rhyngwladol Awstralia.

"Mi ges i brofiad gwych yno", meddai Osian. "Mae wedi bod yn agoriad llygaid i weld pa mor broffesiynol ydy rygbi yn Awstralia. "Mae'r chwaraewyr yn cael prawf braster corff bob bythefnos, yn ymarfer yn ddyddiol, ac am 8 o'r gloch bore Llun yn cael prawf anadl."

Tydi Osian, fodd bynnag, ddim yn meddwl y bydd y Cofis yn barod i wneud hyn i gyd, ond mi fydd na brawf braster i'r hogia bob 6 wythnos o hyn ymlaen.

Felly os gwelwch chi unrhyw aelod o dim cyntaf rygbi Caernarfon yn bwyta bwyd cyflym yn Dre, cysylltwch ag Osian yn syth!

Yn ôl Osian roedd hi dipyn gwahanol hyfforddi rygbi yn Perth mewn tymheredd o 40° ym mis Chwefor, mewn crys-t a siorts.

Hyn o'i gymharu i'r Morfa ar nos Fawrth a nos Iau, yn gwisgo 5 haenan o ddillad!

Ar ddiwedd ei Wythnos cafodd docynnau i weld y Force yn erbyn Auckland Blues, gyda'r Force yn colli."

"Ella bydd rhaid i rai o'u hyfforddwyr nhw ddod draw i Dre i weld sut mae ennill," meddai Osian a'i dafod yn ei foch.

"Dwi'n gobeithio mynd yn ôl i Awstralia," ychwanegodd, " ac i Seland Newydd hefyd ddiwedd y flwyddyn er mwyn ehangu fy ngwybodaeth. "Gweld a chyfarfod y Crusaders a'r Warratah's fydd y daith nesaf.

"Ond mi fyddai'n dal gwaith gyda Chlwb Rygbi Dre, ag Academi Rygbi Gogledd Cymru." Newyddion drwg i werthwyr byrgers a chips!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý