Ddechrau mis Mai newidiwyd enw Caffi Dimensiwn 4 yn Stryd Bangor yn Caffi Rhyngrwyd Dylan Thomas. Na dim ar ôl yr enwog Dylan Thomas arall hwnnw, ond yn hytrach ar ôl perchennog y caffi ei hun. Dylan Thomas ydi enw perchennog y caffi. Wir yr! Roedd Dylan isio newid yr enw a pha well enw na'i enw fo'i hun! Mae Dylan wedi bod yn berchennog ar y caffi rhyngrwyd ers 4 blynedd, er bod caffi wedi bod yno ers 7 mlynedd erbyn hyn. Er bod cyfle i gwsmeriaid y caffi gael defnyddio'r cyfrifiaduron sydd yno a chael mynediad i'r rhyngrwyd, does dim rhaid i chi fod a diddordeb mewn pethau felly i fynd yno. Mae Caffi Rhyngrwyd Dylan Thomas yn union fel pob caffi arall ac yn darparu bwyd amrywiol o safon uchel am bris rhesymol. Mae'r caffi ar agor rhwng 9.00 y bore a 6.00 yr hwyr, 6 diwrnod yr wythnos ac ar agor ar y Sul ar benwythnosau Gwyliau Banc. Galwch heibio. Chewch chi ddim eich siomi.
|