Magwyd Tom Griffith yn Stryd John Llwyd, un o hen strydoedd tref Caernarfon a enwyd ar 么l y pensaer o Twtil, John Lloyd, a fu'n gyfrifol am godi nifer o adeiladau adnabyddus, megis Capel Ebenezer, Y Farchnad yn Stryd y Plas a'r hen waith Nwy ar ffordd Santes Helen.
Cymerodd Tom at arlunio yn hogyn ifanc iawn ac mae ganddo gof o fynd yn rheolaidd i siop Rathbone Jones yn Stryd y Llyn i brynu papur arlunio arbennig am un geiniog y dudalen. Pan oedd yn naw oed bu raid iddo dreulio peth amser yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, yn gwella ar 么l triniaeth lawfeddygol. Sylweddolodd rhai, bryd hynny, bod ganddo ddawn neilltuol i dynnu lluniau, a rhoddodd staff Eryri, ynghyd a'r Dr. Hilton Parry, anrheg iddo yn cynnwys tabledi dyfrlliw. Yna dechreuodd dynnu lluniau o rai o'r cleifion, a hyd yn oed un llun o Dr. Hilton Parry ar ymweliad a'r Ysbyty.
Yn yr Ysgol Rad ac Ysgol Segontium hefyd, daeth ei ddawn i amlygrwydd a rhoddwyd cefnogaeth iddo gan ei athrawon. Yn 1944 ac yntau yn ddim ond 17 oed, ymunodd a'r Llynges a threuliodd bedair blynedd yn y Dwyrain Pell. Gwnaeth ffrindiau a theulu o dras Cymreig yn Hong Kong, a chyda hwy y treuliodd llawer o'i wyliau o'r Llynges.
Aeth y teulu hwn ag ef i'r 'New Territory', lle roedd y golygfeydd yn wahanol, ond gwell oedd ganddo fraslunio'r brodorion, y Tsieineaid yn eu dillad traddodiadol gyda'u hetiau cwli, merched a phlant yn llafurio wrth ochr y l么n yn torri cerrig ar gyfer y diwydiant adeiladu.
Mae tlodi yn adrodd cyfrolau, yn fwy dynol, yn fwy real ac yn llawn teimlad. Yn anffodus, dim ond un llun sydd ar 么l yn ei feddiant, un o ferch Tsieineaidd gyda'i mam yn llafurio wrth ochr y l么n. Gadawodd y gweddill o'i luniau yn Kai Tak a Hong Kong.
Pan ryddhawyd ef o'r Llynges, aeth ar Gwrs Diploma, 5 mlynedd mewn Arlunio Masnachol a bu hefyd am ddwy flynedd mewn Ysgol Nos yn y Coleg Technegol, Bangor yn astudio o dan Mr. Burgess Sharrocks, arlunydd masnachol enwog yn ei ddydd.
Mae'n wir dweud bod pob darlun yn adrodd stori, ond teimlai Tom bod ffigurau dynol yn gwneud gwahaniaeth dirfawr i waith creadigol. Dechreuodd beintio lluniau o'r hen Gaernarfon dros 30 mlynedd yn 么l, ar argymhelliad ei ddiweddar gyfaill a'r hanesydd lleol, Cledwyn Flynn-Hughes, Cyfrifydd a oedd a'i swyddfa y drws nesaf i westy'r Black Boy. Ei syniad gwreiddiol ef ydoedd, ond gwyddai Tom, ar yr un pryd, bod hyn yn rhywbeth roedd ef hefyd yn awyddus i'w wneud.
Yn ffodus, o safbwynt hanesyddol, mae Tom wedi rhoi rhai o'i atgofion fel plentyn ar gynfas, rhai fel llun o'i rieni yn darparu Coeden Nadolig allan o ddau gy1ch pren a phapur lliwgar o Woolworths. Derbyniwyd y llun hwn i'w arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, 1993, ynghyd ag un arall o blant yn chwarae 'G锚m Esgid' ar y stryd. Prynwyd yr olaf gan Dr. Alan Armstrong ar gyfer Prifysgol Agored Cymru.
Dyma'r math o ddarluniau sy'n codi hiraeth ac yn boblogaidd gan lawer o deuluoedd a adawodd eu gwlad enedigol a mynd i fyw dramor. Yr hyn a rydd bleser di ben draw
i'r arlunydd yw cofio a phaentio rhai llefydd a chymeriadau nad ydynt yn bod bellach. Gwerthfawroga, hefyd, y gefnogaeth a gafodd gan ei deulu ar hyd y blynyddoedd ac yn arbennig felly gefnogaeth ei wraig Odette, sy'n hanu o'r Swistir, ac mae'n cydnabod hynny trwy ddefnyddio 3 llythyren ei henw morwynol ENZ a'u hychwanegu at ddwy lythyren gyntaf ei gyfenw GR i ffurfio'r enw GRENZ a dyma'r enw a ddefnyddia i arwyddo ei ddarluniau.
Mae'r enw GRENZ yn ein hatgoffa o'r gair Almaeneg am Y FFIN - DIE GRENZE. Tybed nad oes arwyddoc芒d yn ei ddewis o enw? Onid mynd 芒 ni'n 么l dros Y FFIN i'r gorffennol yw'r hyn sy'n gwneud ei ddarluniau mor boblogaidd?
A'r Nadolig ar y trothwy, a hithau'n adeg chwilio am anrhegion, yn sicr bydd llawer ohonoch yn awyddus i wybod mwy am ddarluniau hanesyddol o Gaernarfon gan yr arlunydd Tom Griffith - Grenz.
T. MEIRION HUGHES