Aeth Papur Dre i'w gyfarfod er mwyn gweld sut hwyl y mae'n ei gael ar y gwaith. Mae pob diwrnod yn dechrau ac yn gorffen yng ngorsaf yr heddlu ym Maesincla. Ben bore fe fydd Cwnstabl Williams yn archwilio'r system i weld beth sydd wedi digwydd yn y dre dros nos ac yn ymateb i negeseuon gan y swyddogion oedd ar ddyletswydd. Wedyn bydd yn cymryd datganiadau ac yn ymweld 芒 phobol sydd am gael sgwrs. Ar 么l gorffen y gwaith papur fe fydd yn barod i ddechrau crwydro'r strydoedd. Bydd yn mynd i'r siopau a'r tafarnau i sicrhau nad oes problemau. Hefyd bydd yn galw heibio ei swyddfa yn siop Woolworths, lle mae modd i bobol adael negeseuon iddo. Yn ystod yr wythnosau cyntaf yn ei swydd mae Cwnstabl Williams wedi bod yn brysur yn sefydlu perthynas gyda phobol y dre, siopwyr, pobol fusnes ac aelodau'r cyngor. Rhan bwysig o'r gwaith yw dysgu pa broblemau sy'n wynebu'r gwahanol ardaloedd o fewn y dre. Y prif broblemau, meddai, ydi dwyn, ymddygiad gwrth gymdeithasol, cyffuriau a pharcio ceir. Mae'n pwysleisio mai canran isel o bobol sy'n creu problemau a bod troseddu yn digwydd ymhob tref, ond bod y wasg wedi canolbwyntio ar Gaernarfon yn ddiweddar.Mae Cwnstabl Williams wrth ei fodd yn gweithio yn y gymuned: Dyma oeddwn i eisiau ei wneud,' meddai. "Mae'n golygu fy mod yn treulio mwy o amser ar y stryd yn cyfarfod pobol a siarad a nhw, ac maen nhw wedyn yn gallu rhoi wyneb i'r plismon ac yn fwy cyfforddus yn siarad efo un person. "Dwi wedi cael ymateb da gan bobol hyd yma a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn parhau."Cafodd Steve Williams ei fagu yng Nghaernarfon. Aeth i ysgolion Twthil, Bontnewydd, a Syr Hugh Owen. Wedi gadael yr ysgol aeth i'r lluoedd arfog am 14 blynedd. Ond roedd yn awyddus i ddod yn 么l i'r ardal, a daeth yn heddwas gyda Heddlu'r Gogledd. Bu'n gweithio efo'r heddlu am bedair blynedd cyn dechrau at ei swydd newydd ym mis Tachwedd. Os ydach chi yn gweld rhywbeth yn digwydd yn dre ac am siarad 芒 Steve Williams, gallwch ffonio'r swyddfa ym Maesincla ar 673332.
|