Y Cynghorydd LE. Griffith agorodd y Clwb yn swyddogol ar yr 11eg o Ionawr 1979.
Ers hynny mae'r Clwb wedi mynd o nerth i nerth ac mae cenedlaethau o bobl ifanc y dre wedi cael pleser a llwyddiannau mawr wrth fod yn aelodau.
Dros y blynyddoedd mae'r Clwb wedi cael llwyddiannau ysgubol mewn sawl cystadleuaeth. Maent wedi ennill cystadleuaeth Dawnsio Hyn yng Nghymru a llwyddo i fynd mor bell a ffeinals Prydain yn 1989.
Mae tîm pel-droed y bechgyn wedi bod yn y gemau gogynderfynol 4 gwaith, 2 waith yn y rownd cyn derfynol ac unwaith yn ffeinal Cwpan Ieuenctid Cymru (Welsh Youth Cup) yn erbyn Abertawe yn 1999.
Cafodd un o'r gemau ei chwarae yn erbyn Caerdydd ym Mharc Ninian oedd yn dipyn o fraint i'r tîm o dan 17 oed.
'Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i ieuenctid y dref gael Clwb fel hyn', medd
Janice Roberts un o swyddogion y Clwb.
'Mae na lawer o weithgareddau yn mynd ymlaen. Mae'r aelodau yn cystadlu bob
blwyddyn yn yr Å´yl Gelf i glybiau ieuenctid Gwynedd, ac yn llwyddiannus mewn cystadlaethau coginio, coluro, ac hefyd gweithgaredd llwyfan, sef Dawns, Canu a Sgets.
Hefyd cynhelir cystadlaethau Pel-droed, Dartiau, Tenis Bwrdd, Snwcer a Pwl o fewn y Clwb bob blwyddyn.
Wedyn y cyfle i fynd i rowndiau Arfon a Gwynedd, rhai o rhain wedyn yn cynrychioli Gwynedd yng Nghystadlaethau Cymru.
Yn barod y tymor yma mae 3 o enethod o'r Clwb wedi dod yn gyntaf am goginio pryd i ddau, dau gwrs am £7. Mi fyddant yn y ffeinal ym mis Chwefror.
Mae hyn i gyd yn rhoi hyder i lawer o bobol ifanc sydd efallai ddim yn cael y cyfle'.
Bar di-alcohol
Mae'r bar di-alcohol wedi cael newydd
wedd, paent a dodrefn newydd, a hefyd
dwy sgrin fawr, un i wylio pêl-droed neu ffilmiau ac un i chwarae ar y WII.
Y gobaith ar gyfer y dyfodol ydi casglu arian i gael offer newydd i'r gampfa, i gario 'mlaen i hybu pwysigrwydd bwyta'n iach, ffitrwydd a gweithio'n agos gydag asiantaethau iechyd, atal cyffuriau ayyb.
Mi fydd y dthliad mawr yn cel ei gynnal yn y Clwb ar nos Iau, Ionawr 22 am 7.00.
Fe fydd yn gyfle i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig dros y blynyddoedd i hel atgofion a gweld sut mae'r Clwb wedi symud ymlaen dros y blynyddoedd.
I'r rhai mwyaf heini bydd cyfle i chwarae ambell i gêm o pŵl neu denis bwrdd!
Disgwylir i gynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a Cyngor Tref fod yn bresennol.
Mae'r clwb yn ddyledus iawn i Gyngor Dref am eu cefnogaeth ariannol tuag at sicrhau bod y Clwb yn agor 5 noson yr wythnos - yr unig Glwb i fod yn agor bob noson o'r wythnos a'r gobaith yw y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod.