Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion a gynhaliwyd ym mis Mai, daeth Segontium yn fyw unwaith eto wrth i 90 o ddisgyblion o Ysgol yr Hendre; 34 o famau, tadau, neiniau a theidiau; un bardd ac un cerddor ddod ynghyd. Roedd yr hen gaer Rufeinig yn fwrlwm o fywyd, ac roedd yn bleser i fod yn rhan o'r profiad.
Wedi i ni fartsio fel milwyr, gwisgo fel milwyr a churo drymiau, dyma griw ohonom yn ail greu y sefyllfa yn y ganrif gyntaf OC pan oresgynnwyd y Derwyddon gan y Rhufeiniaid - y cwbwl yn cael ei gyfleu drwy symudiadau a sain.
Aeth rhai o'r plant a'r oedolion ati i lunio cerdd gan ddychmygu yr hyn a fyddai ar feddwl un o filwyr Rhufain wedi iddo gyrraedd pen draw'r byd yn Segontium - croniclwyd ei deimladau a'i feddyliau yn effeithiol, gan greu
hanfon ar gerdyn post at ei annwyl gariad yn Rhufain.
Mwynhaodd criw arall o'r plant y cyfle i wisgo fel Celtiaid, y wisg yn syml a dirodres yn pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng y brodorion a'r Rhufeiniaid .
Mae celfyddyd yn llwyddo i'n huno, a phrofwyd hynny wrth i Iwan Llwyd a Dylan Adams ein hannog i gymryd rhan, ac i fwynhau creu ac ail-greu gyda'n gilydd.
Pontio cenedlaethau a rhannu profiadau oedd bwriad y gweithgareddau, ac yn bwysicach oll, gosod sylfaen gadarn i'r Cofis ailfeddiannu'r gaer. Ein caer ni ydi hi, pob un ohonom sydd wedi byw yn ei chysgod, ac sydd erbyn hyn yn ei pherchnogi.
|