Mae'r stafell yn cael ei goleuo gan liwiau cryf y peintiadau.
Portreadau sy' 'ma yn bennaf. Peintiadau o ferched noeth, peintiadau o rai o ffrindiau'r artist a hunan-bortreadau.
Peintiadau sy'n gneud i chi feddwl fod 'na stori y tu ôl i bob lllun, bron. Mae rhai o'r peintiadau yn bryfoclyd, rhai yn ddoniol, ond mae'r cwbwl yn gwneud i chi sefyll yn ôl ac edmygu crefft artist ifanc talentog ac addawol.
Yn Bethel y magwyd Meirion Alan Ginsberg, ac ar ôl cyfnod yn astudio celf ym Mangor a Chaerdydd, mae o bellach yn ôl yn yr ardal yma, yn ceisio dilyn gyrfa fel artist. Mae o'n ceisio cadw'n glir oddi wrth bynciau 'traddodiadol' fel tirluniau, ac mae'n defnyddio llawer ar ei deulu a'i
ffrindiau fel ysbrydoliaeth i'w waith.
Cafodd ei fagu mewn teulu o beintwyr a cherddorion, a chafodd y gymysgedd yma o wahanol gyfryngau ddylanwad arno. Mae hiwmor yn elfen bwysig iawn yn ei waith hefyd, hynny efallai oherwydd fod comics a chartŵns wedi dylanwadu llawer arno pan oedd yn ifanc.
Mae gan Mei ei wefan ei hun, www.maginsberg.co.uk - ac mae'n werth edrych ar honno cyn mynd draw i'r arddangosfa. Mi gewch chi weld mwy o'i waith yn fan'no, yn ogystal a chael cyfle i
ddarllen mwy am hanes yr artist a'r hyn mae o'n geisio ei wneud.
Ond fel mae Mei ei hun yn deud, dim ond cyflwyniad ydi'r Wefan. Mae'n rhaid i chi weld y gwaith 'yn y cnawd' i chi ei werthfawrogi yn iawn.
Ewch i weld arddangosfa Mei Dei. Cefnogwch artist ifanc lleol sy'n cael cyfle i ddangos ei waith yn yr ardal. Cefnogwch Oriel sy'n gwneud ei gorau i hybu gwaith artistiaid ifanc lleol. Cerwch i weld llond stafell o beintiadau byw, ac arddangosfa wirioneddol dda.
|