Roedd yn awyddus i'n hatgoffa ei bod yn union 25 mlynedd ers hynny ac am inni hysbysu'n darllenwyr o'r digwyddiad hanesyddol hwnnw.
Roedd y dadorchuddio wedi ei drefnu ar gyfer 700 mlynedd i'r diwrnod y lladdwyd yr olaf o'r tywysogion Cymreig, Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri, trwy i un o'i gefnogwyr ei fradychu, gan roi gwybodaeth i'r gelyn ymhle yn union yr oedd Llywelyn a mintai fechan o'i fyddin. Roedd milwyr y Brenin yn aros amdanynt ac, ar ôl ymosodiad ffyrnig, lladdwyd Llywelyn ac aed â'i ben i Lundain a'i arddangos ar bolyn ar un o byrth y ddinas.
Y Cynghorydd Bobby Haines oedd Maer Caernarfon yn 1982, ac o'r herwydd roedd yn bresennol yn y dathliadau y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, y sawl a oedd i ddadorchuddio'r cerflun ar y Sadwrn, 11 Rhagfyr, oedd y diweddar Gynghorydd W. R. P. George, Cadeirydd Cyngor Sir Gwynedd, ond fe dderbyniodd ef lythyr bygythiol oddi wrth un yn honni ei fod yn aelod o Fataliwn Ardoyne o'r Fyddin Weriniaethol Wyddelig.
Hynny o bosib oherwydd ei gysylltiad teuluol â'r enwog gyn Brifweinidog, David Lloyd George, a fu'n gyfrifol am y cytundeb hwnnw yn 1921 i rannu Iwerddon yn ddwy ran, a'r rhan ogleddol i ddal i ddod o dan awdurdod Y Deyrnas Unedig, gan mai dyna oedd dymuniad y mwyafrif o'r trigolion yno. Rhag i eraill gael eu rhoi mewn perygl yn bennaf, ac wedi cynnal cyfarfod brys o'r Cyngor a chael barn yr Heddlu, penderfynodd W. R. P. George gadw draw o'r gweithgareddau a gofynnwyd i Is-Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd a'r Parchedig, Richard Jones, Ficer y Felinheli ar y pryd, i gario allan ei ddyletswyddau.
Ar y diwrnod, er fod llawer o bobl yn bur ofnus o gofio'r bygythiad a dderbyniodd Y Cynghorydd W. R. P. George, ni chafwyd arlliw o unrhyw drais yn ystod y gweithgareddau. Fodd bynnag, roedd llu mawr o aelodau'r Heddlu yn cadw llygad barcud ar bob rhan o'r dathliad, ond yn gwneud hynny yn y cefndir a heb ymddangos yn amlwg.
Am ddau o'r gloch y pnawn trefnwyd cyfarfod yn Theatr Seilo, Caernarfon, gydag Is-Gadeirydd Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Richard Jones, yn cadeirio yn absenoldeb Cadeirydd Y Cyngor, Y Cynghorydd W. R. P. George. Dau hanesydd a ddewiswyd i annerch, sef Yr Athro J. Gwynn Williams, Coleg y Brifysgol Bangor, a'r Athro Emeritus Glanmor Williams, Coleg y Brifysgol, Abertawe. Ar y rhaglen hefyd oedd eitemau cerddorol gan Barti Cymerau, Pwllheli, o dan arweiniad Nan Elis a'r delynores oedd Gwennant Roberts.
Os mai heddychlon a fu'r dathliadau o safbwynt y bygythiad, nid aeth y diwrnod heibio'n ddidramgwydd. Yn gyntaf, fe ofynnwyd i'r cerflunydd ddweud gair am ei greadigaeth, a chan mai Sais oedd fe siaradodd yn Saesneg, a phan alwyd wedyn ar Yr Athro J. Gwynn Williams i annerch, siaradodd yntau yn Saesneg. Roedd hyn yn ormod i'w oddef gan rai a phenderfynodd Arweinyddes Parti Cymerau gerdded allan o'r theatr a dilynwyd hi gan y gweddill o'r parti. Cawsant gyfarfod byr i drafod y mater yn y cyntedd cyn troi am adref.
Cafodd yr Arweinyddes ei holi gan y Wasg yn ddiweddarach a rhoes ei rhesymau dros adael y cyfarfod. Yn gyntaf roedd yn ddig na chychwynnwyd ar amser a'i fod hanner awr yn hwyr ac ni welodd neb yn dda i hysbysu'r gynulleidfa o'r rheswm am hynny. Yn ail ni theimlai bod angen i'r cerflunydd fod wedi siarad o gwbl gan nad oedd i lawr ar y rhaglen iddo wneud hynny ac yn olaf sarhad o'r mwyaf oedd gofyn wedyn i'r Athro J. Gwynn Williams, yntau i siarad yn Saesneg.
Deallwyd hefyd mai y rheswm am yr oedi oedd bod y gwesteion wedi eu gwahodd i ginio yng Ngwesty'r Royal ag i hynny redeg yn hwyr.
Gwahoddwyd y Cynghorydd Richard Jones i ateb yr hyn oedd gan yr Arweinyddes i'w ddweud am Yr Athro J. Gwynn Williams yn traddodi ei araith yn Saesneg a dywedodd mai y Cynghorydd W R. P. George a ofynnodd iddo wneud hynny.
Fodd bynnag, i ddychwelyd at y dathliadau ar yr 11 o Ragfyr, 1982. Ar ddiwedd y cyfarfod yn Theatr Seilo cychwynnwyd ar orymdaith gyda Seindorf Arian Llanrug yn arwain ar hyd Stryd Fangor, y Bom Bridd, ac o amgylch y Maes at Stryd y Castell. Ymysg y rhai a orymdeithiodd oedd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Beata Brookes, a dau Aelod Seneddol, Keith Best, Ynys Môn a Dafydd Elis Thomas, Meirionnydd. Yn cynrychioli ei gwr yr oedd Mrs. Elinor Wigley, gan ei fod ef i lawr yng Nghilmeri y diwrnod hwnnw mewn gwasanaeth a drefnwyd yn genedlaethol i Gofio Llywelyn, 700 mlynedd i'r diwrnod y'i lladdwyd yno.
Traddododd Y Cynghorydd Richard Jones araith fer i'r achlysur cyn dadorchuddio'r cerflun o Eryr Eryrod Eryri, a osodwyd ar ongl i wynebu ac i herio'r ddelwedd o Iorwerth 11 uwchben Prif Fynedfa'r Castell, Porth y Brenin.
T. MEIRION HUGHES