´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Sharon Owen Cyfnod newydd i hen le
Ionawr 2008
Mae 2008 yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous iawn yn hanes diweddar Amgueddfa Caer Rufeinig Segontium.

Yn dilyn llwyddiant eu cais Loteri, bydd grant £50,000 o'r Gronfa Dreftadaeth yn galluogi Segontium Cyf i gomisiynu adroddiadau a fydd yn cynnig ffordd ymlaen i'r amgueddfa bwysig.

Sharon Owen, 30 oed o Dalysarn, sydd wedi'i phenodi i arwain y prosiect datblygu, a bydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar greu a meithrin cysylltiadau lleol a chenedlaethol.

Enillodd Sharon Radd Hanes Cymru gydag Archaeoleg o Brifysgol Cymru, Bangor, yn y flwyddyn 2000. Treuliodd 2 flynedd yn gweithio ar Brosiect Hanes Llafar Merched y Wawr, ac yna hanner fel Swyddog Datblygu Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts.

"Fy ngobaith ydi datblygu cynllun a fydd yn caniatau i ni drawsnewid Amgueddfa Segontium i fod yn ganolfan brysur a dychmygus a fydd yn dehongli dyfodiad y Rhufeiniaid, eu cyfraniad i ddatblygiad Caernarfon a'u hymwneud a'r trigolion brodorol," meddai.

Yn ystod y misoedd nesaf, cewch flas ar fywyd yn Segontium yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Bu'r gaer yn ganolfan weinyddol am bedair canrif - a hynny ar eithaf mwyaf gorllewinol yr ymerodraeth Rufeinig. Petai'r olion Rhufeinig yn medru siarad...


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý