Ydi mae'n bnawn Llun yn stafell gymuned y Llyfrgell lle mae'r Clwb Gweu yn cyfarfod.
Y mhen tipyn mae'r teciall yn berwi a phanad yn barod a chyfle i glywed tipyn o'r hanes.
DECHRAU'R CLWB
Ffurfiwyd y clwb dros 15 mlynedd yn ôl gan rai aelodau o Sefydliad y Merched Pontrug.
Y pwrpas oedd cymdeithasu a gwneud gwaith llaw o bob math yng nghwmni ei gilydd.
Mae Mrs Eirwen Parry, Mrs Betty Hughes a Mrs Mair Evans yn aelodau ers y dechrau.
Yn raddol
dechreusant wneud plancedi i'r henoed ac erbyn hyn mae holl waith y Clwb Gweu yn cael ei roi at achosion da.
Y CYNNYRCH
Plancedi babis: Bydd Ysbyty Gwynedd yn eu derbyn ar gyfer babanod anwyd yn gynamserol.
Plancedi Cluniau: Mae rhain yn mynd i gartrefi henoed yr ardal.
Dillad Amrywiol: Ar gyfer mudiad yr "Inner Wheel" i fynd i blant y gwledydd tlawd.
Siwmperi Cynnes: Anfonwyd nhw i Rwmania, yn bennaf ar gyfer teuluoedd
sipsiwn y Romani sy'n cael eu trin fel trigolion eilradd.
CARDIAU CYFARCH a CHYWION BACH
Dwy o'r merched sy'n gweithio'n ddiflino yn gwneud cardiau o bob math ydi Mair Evans Ffordd Bethel ac Alice Evans Cae Berllan.
Gwerthir rhain am £1 neu ddwy at wahanol elusennau. Cyn y Pasg bu'r ddwy yn ogystal ag Eurfron Jones, Lon Ysgubor Wen ac Owena Malavasi Bontnewydd yn brysur iawn yn gweu cywion bach melyn, rhoi wy Pasg ym mhob un a'u gwerthu i
ffrindiau. Maen nhw hefyd yn gwneud teganau meddal amrywiol.
Eleni mi fyddant yn cyflwyno siec am £500 i Calon Lan yn Ysbyty Gwynedd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rhoddwyd dros £3,500 o arian i Tŷ Gobaith, Hosbis yn y Cartref, Ambiwlans Awyr, Ward Alaw a Chronfa Joshua.
AELODAU NEWYDD
Yn ddiweddar ymunodd Olwen Williams ac Eluned Mathias a'r Clwb Gweu.
Mae Gill Williams a Gill Birk yn dysgu Cymraeg yn naturiol wrth wrando ar y sgwrsio ac yn mwynhau pob munud.
Os oes rhywun arall efo diddordeb trowch i mewn ar bnawn Llun.
CLIRIO'R CYPYRDDAU
Nid yn unig mae'r merched yn rhoi eu llafar yn rhad ac am ddim ond maen nhw'n prynu'r 'ddafadd hefyd.
Mae'n amser spring-clinio eto ac o bosibl fod gan rai o ddarllenwyr PAPUR DRE ambell bellen o wlân mewn cwpwrdd ers blynyddoedd.
Os ydi o'n "double knitting" beth am ei roi i'r
Clwb Gweu ac mi fyddwch chithau, yn cyfrannu at achosion da heb son at lle i gadw pethau eraill yn y cwpwrdd!
Magi Wyn Roberts