Deg ar hugain ydy'r pen-blwydd swyddogol ond roedd gan Clwb Rygbi Caernarfon gyfrif banc n么l ym 1960. "Roedd 'na griw ohonan ni yn chwarae yn erbyn Llandudno bob Boxing Day," meddai Alun 'Cwstard' Roberts, capten cyntaf Clwb Rygbi Caernarfon. "G锚m yn y pnawn, dw mawr yn nhy Harland Greenshields yng Nghaeathro wedyn ac yna lawr i'r Royal i ddawnsio. Fe waethon ni hyn am flynyddoedd ond methu a chael digon o chwaraewyr i sefydlu clwb go iawn bob tro. "Roedd y cyfri banc reit iach ond fe rannon ni'r arian hefo Llandudno yn y diwedd jyst cyn i ni ddechrau'r clwb yn swyddogol" Roedd hynny ym 1973. Cafwyd pwyllgor yn y Marbryn efo pobl fel y diweddar Des Treen, Stuart Gifford a Wally Hewer. "Roeddwn i, Einion Angel a Clive James yno hefyd os cofia i'n iawn," meddai Alun. Einion oedd ysgrifennydd cynta'r clwb a syndod i rai efallai fyddai deall mai'r hyfforddwr ffitrwydd oedd Wyn Davies, Mr P锚l-droed ac athro ymarfer corff Syr Hugh. "Roedd Wyn yn gr锚t ac Einion a finna wedyn yn gyfrifol am hynny o dactegau oedd ganddon ni," meddai Alun. "Yn y Hole in the Wall oeddan ni'n cyfarfod ar y dechra. Ond fe gerddon ni rownd Dre - o Twtil i Black - cyn prynu'r hen glwb yn L么n Gas." Yr adeilad chwedlonol hwnnw yn Ffordd Santes Helen fu cartre'r clwb wedyn am bron i ddeunaw mlynedd. Mae llu o atgofion rhwng ei furiau: nosweithiau Bara Caws, nosweithiau Ffrengig unwaith y mis heb s么n am wythnos anhygoel y Steddfod Genedlaethol ym 1979. Cymerwyd ymhell dros ugain mil o bunnau tu 么l i'r bar yr wythnos honno a wnaiff Alun byth anghofio'r nos Sul gynta. Roedd y Dre yn sych ar y Sul bryd hynny ac roedd 'na giw o gyfeiriad yr Albert dros y lein i lawr am y clwb pan gyrhaeddodd Alun, at ei ben ei hun bach, i agor. Do, gwagiwyd sawl casgen yr wythnos honno. Er, ni fu'r clwb yn enwog am safon ei gwrw bob tro. Cofia Alun yn dda y drafodaeth fu am brynu coolers. Rheiny neu beiriant sgrymio oedd y pwnc dadleuol. Penderfynwyd ar y 'coolers' o un bleidlais - wrth lwc. Roedd Alun wedi eu harchebu cyn y bleidlais! Prysurwn i ddweud fod y peiriant sgrymio wedi cyrraedd yn fuan ar 么l hynny hefyd. Ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth i sicrhau fod rygbi yn dal i gael ei chwarae yn Dre ar 么l deng mlynedd ar hugain.
|