´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Hayley Pritchard yn y tu blaen gyda dau o'r gwirfoddolwyr, Pam a Rhydian. Deg o'nan ni ...
Chwefror 2005
yn siop Tenovus dre
Os ewch chi heibio i siop Tenovus yn Dre, rydych chi'n siŵr o weld Hayley Pritchard.
Fe ddechreuodd hi helpu yn y siop pan gafodd ei thaid hi ganser ac mae yno ers blynyddoedd bellach yn cadw trefn ar bawb sy'n helpu. Yn ôl Emyr Price: "Hi yw Ein Mam Ni oll - sef y deg o'nan ni (a mwy) sy'n helpu yn y siop yn rheolaidd Pegi; Menna, Sion, Ada, Rhydian, Pam, Enid, Blodwen, Mari, Gwyneth, Sue a Betty ac Emyr.

"Mae Hayley yma Sul, gŵyl a gwaith. Mae'n trefnu popeth yn y siop ac yn arbennig yn darparu y ffenestr siop fwya trawiadol yn y dre. Y hi sy'n morol hefyd fod pawb yn gweithio'n hapus ac mewn harmoni.

"Ar ddiwedd y rhyfel, yn 1945, daeth deg o bobl yng Nghaerdydd at ei gilydd. Roedd ganddyn nhw brofiad o drin ac ymchwilio i ganser a'u bwriad oedd sefydlu elusen i gasglu arian er mwyn gwneud ymchwil i'r salwch enbyd yma. Mi alwodd y deg eu hunain yn Ten(ov)us.

"Erbyn heddiw, mae siopau ar draws Cymru a gwaith pwysig wedi'i wneud i wella canser - yn arbennig canser y frest a chanser y prostad. Mae'r gwyddonwyr drwy help ariannol Tenovus wedi gwneud darganfyddiadau pwysig ac mae gan Tenovus hefyd linell gymorth ddi-dâl, lle bydd unrhyw un efo canser neu ofn bod canser arnyn nhw'n cael siarad gyda gwyddonwyr drwy help ariannol Tenovus wedi gwneud darganfyddiadau pwysig ac mae gan Tenovus hefyd linell gymorth ddi-dâl, lle bydd unrhyw un efo canser neu ofn bod canser arnyn nhw'n cael siarad yn hollol hamddenol efo doctor, nyrs neu gynghorydd profiadol. Rhif y ffôn yw 0808 808 1010.

"Ond heb y rhoddion hael a gawn i'r siop gan bobl leol a'r cannoedd a'r miloedd sy'n prynu yma, ni fyddai gwaith rhagorol Tenovus i wella canser yn parhau".

Dywed Hayley: "Diolch i bawb sy'n ein helpu efo'r rhoddion ac y mae croeso i unrhyw un ddod atom a gweithio fel gwirfoddolwr".

I gael gwybod mwy am hanes Tenovus, ewch i www.tenovus.com.

(Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý