Mae Terminal 24 yn un o chwe grwp a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol. Mi fu'r grwp yn perfformio yn Ysgol Syr Hugh yr wythnos diwetha' gyda'r set o wyth c芒n yn cael ei recordio i'w darlledu ar C2 a'r gwrandawyr yn pleidleisior grwp gorau. Aelodau Terminal 24 ydi Martin Sexton o Ffordd Llanberis (drymiau), Geraint Brown o Twtil (gitar f芒s) a Dion Jones o Lanrug, ond a oedd yn arfer byw yn Stryd y Faenol (prif leisydd a git芒r flaen). Grwp sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth roc pync ydi Terminal 24 ac mae'r hogia' yn hynod o falch eu bod nhw wedi cael y cyfle i gystadlu yn y rownd olaf. Maen nhw'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi mwy o gyhoeddusrwydd iddyn nhw, mwy o gigs ac efallai cytundeb gyda label recordio. Mae'r hogia' wedi bod yn ymarfer yn galed ers wythnosau ar gyfer y gystadleuaeth. Yn garej Geraint ar dop allt 'Gypsy Hill' y byddan nhw'n ymarfer ac mae pobol y stryd yn hen gyfarwydd 芒'u caneuon erbyn hyn. Mae plant Syr Hugh wedi bod yn mwynhau cyngerdd am ddim ar eu ffordd adref hefyd. A bydd cyfle i weddill y dre' glywed Terminal 24 yn perfformio yn fuan a hynny ar Y Maes yn ystod Gwyl Caernarfon ddiwedd y mis.
|