Dosbarth perfformio uwchradd SBARC o Dre oedd yno yn recordio ffilm fer Gymraeg - gaiff ei gweld am y tro cynta yng Ngŵyl Pics yn Galeri fis Tachwedd nesa.
Ffrwyth 5 wythnos o waith paratoi a sgwennu oedd y tridiau ym Mhorthaethwy.
Yn ogystal a chael defnyddio'r set gan gwmni Rondo fe gafodd criw SBARC hefyd Å´r camera proffesiynol gan Cwmni Da ac adnoddau golygu.
Cwmni Hijacker Films sy'n goruchwylio'r prosiect ac fe gafwyd cymorth ariannol gan Asiantaeth Ffilm Cymru.
Roedd na gyfle i bawb actio gyda rhai yn arbenigo ar golur, gwisgoedd a chyfarwyddo.
Yn ô1 Rhian Cadwaladr a Tammi Gwyn, tiwtor ac is-diwtor y cwrs, roedd o'n brofiad gwerth chweil i'r pymtheg gymerodd ran.
"Roedd o'n gyfle arbennig i'r criw gael gweithio gydag offer technegol, gyda phobl broffesiynol a hynny ar set go iawn," meddai Rhian.
"Mae nhw'n cael y cyfle i ddysgu'r ddisgyblaeth o ffilmio a sylweddoli ei bod hi'n cymryd oriau lawer i greu dim ond 10 munud!"
|