Oherwydd eu bod wedi llosgi gormod o danwydd ffosil mae nhw wedi lladd y Ffaliffolion ac mae'r trigolion wedi dod i'r ddaear i chwilio amdanyn nhw.
Dyna fraslun o stori sioe a gafodd ei pherfformio yn Galeri yn ddiweddar gan y Cofis Bach a Sbarc.
Rhian Cadwaladr, sy'n diwtor drama i'r Cofis Bach yn Noddfa ac i Sbarc yn Galeri, oedd yn egluro hyn yn ystod saib yn ymarfer olaf y sioe, a gafodd ei sgwennu gan Gareth Glyn ae Eleri Cwyfan.
Fel yr eglurodd Rhian, roedd gweddill y bobl oedd yn hyfforddi'r cast yr un mor broffesiynol a'r awduron.
Beth oedd yn wych am y fenter oedd bod y bobl ifanc yn cael cyfle i weithio efo criw mor brofiadol o ddawnswyr, technegwyr a hyd yn oed band byw ar gyfer y caneuon.
O holi rhai aelodau Cofis Bach, dyna oedd eu barn nhw hefyd.
Roedden nhw wrth eu bodd yn cael dysgu gwahanol grefftau'r theatr: actio, canu, dawnsio a chael sbort wrth wneud hyn hefyd.
A rhag ofn na welsoch chi'r sioe, Ffaliffolion ydi Cennin Pedr - wrth gwrs!
|