Tipyn o bluen yn het y Cofi 19 oed. Ar 么l chwarae i d卯m ysgolion Cymru a'r t卯m ieuenctid (19 cap i gyd) fe aeth Cai rownd y prif glybiau i weld a fyddai gan un ohonyn nhw ddiddordeb ynddo. Roedd gan bawb ond Caerdydd ! Ond plymio am Gastell Nedd wnaeth Cai yn y diwedd gan fod gan y Crysau Duon Cymreig draddodiad hir o chwaraewyr rheng flaen adnabyddus. Prop 6 troedfedd 2 fodfedd a 17 st么n a hanner ydi Cai ac mae'n dilyn 么l styds rhai o brops enwog Castell Nedd fel Duncan ac Adam Jones, Ben Evans a Darren Morris. Mae Cai eisoes wedi chwarae ddwywaith i'r t卯m cyntaf yn erbyn Pontypridd a Chasnewydd, lle bu'n propio yn erbyn y chwaraewr rhyngwladol Chris Anthony. Uchelgais Cai wrth reswm ydi cael chwarae dros d卯m cyntaf ei wlad ac yna'r Llewod, gobeithio. I wireddu'r freuddwyd mae o sicr yn y dwylo iawn - rhai Lyn Jones, hyfforddwr y t卯m rhanbarthol newydd. Mae o'n andros o g锚s, meddai Cai ond yn gallu bod yn ddifrifol pan mae o isho.Ym Mhontarddulais y mae Cai yn byw erbyn hyn, yn rhannu fflat gyda Mark Vaughan Jones, un arall o gyn-ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen sy' wedi bod ar lyfrau Clwb Rygbi Abertawe. (Yn anffodus tydi Mark ddim wedi cael cynnig cytundeb gan y t卯m rhanbarthol). Mae byw yn Pontarddulais fatha byw yn rwla fel Penygroes,meddai Cai. Braidd yn ddistaw ! Ond handi i'r M4 a dim ond chwarter awr o Gastell Nedd. Ac mae na lot yn siarad Cymraeg yno. Nid fod gan Cai lot o amser i gymdeithasu. Mae rygbi yn joban llawn amser. Hyfforddi, mynd i'r gym, mwy o hyfforddi a chrwydro ysgolion. Ond gyda lwc fe fydd yn werth yr ymdrech pan fydd o'r cyntaf o Dre (a th卯m p锚l droed Cae Glyn !) i gael y cap rygbi llawn cynta' dros Gymru.
|