Prif bwrpas yr aduniad yw casglu arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ynys M么n 2004, ond hefyd gobeithir y bydd yr achlysur yn gyfle i'r cyn aelodau i gyd, a'r sawl fu'n eu goruchwylio (!) gyfarfod unwaith eto. Credwn eu bod bellach yn ddigon hen i fynychu Gwesty'r Vic!!Hanes Aelwyd Menai
Datblygiad naturiol o fod yn Uwch Adran yr Urdd yn y Borth roddodd fod i Aelwyd Menai yng nghanol y saithdegau. Deuai pobol ifanc yno o Landdona i Landdaniel ac ardal Pentraeth a Llansadwrni sgwrsio, chwarae snwcer a dartiau, gwrando ar dapiau y s卯n roc Gymraeg, yfed coffi a chael eu cyflenwad wythnosol o 'fisgedi buwch'! I'r anghyfarwydd ohonoch bisgedi Malted Milk oedd y rhain.
Yn ei hanterth bu dros 50 o bobol ifanc yn dod i'r Aelwyd bob nos Iau. 'Sgoldy'r Capel Mawr fu ein cartref o'r cychwyn cyntaf a chawsom bob cefnogaeth gan y Gweinidog, y Parchedig Idris Davies a'r Swyddogion. Cyfarfyddem rhwng 6.30 a 10 pm - yr Aelwyd iau tan 8 ac yna'r criw hyn tan 10. Dipyn o farathon ir gofalwyr a hynny yn aml ar 么l diwrnod caled o waith, ond tystiai pawb eu bod yn cael gwefr o fod yng nghwmnir bobl ifanc.
O fanylu ar y cofrestri gwelwn fod tua 35 o oedolion yn eu tro wedi rhoi help i gynnal y nosweithiau ac i ddifyrru a chadw llygad ar y criw.
Ysgrifenyddion cyntaf yr Aelwyd yn 1976 oedd Nesta Evans - sydd erbyn hyn yn athrawes yn Ysgol y Borth a Janet Jones - caiff hi ei hadnabod fel Janet Aethwy, yr actores heddiw.
Uchafbwyntiau
Gweithgareddau codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1976 yw un o'r pethau sy'n aros yn hir yn y cof. Cawsom lawer o hwyl yn cyflawni'r gwaith yma hefo'r bobol ifanc. Hel at ein gilydd ar foreau Sadwrn i lapio hen bapur newydd ar gyfer y lori ddeuai o gyffiniau Croesoswallt iw gasglu. Codwyd cannoedd o bunnoedd at y 'Steddfod drwy'r dull hwn, ac roedd hyn ymhell cyn i ailgylchu ddod yn boblogaidd.
Un arall o'r uchafbwyntiau oedd gweld aelodau'r Aelwyd yn cyflwyno Neges Ewyllys Da yr Urdd ar y teledu yn 1989. Bu dau d卯m yn cystadlu yn Stiwdio Barcud, Caernarfon ar Lastig, Lectric a Lwc - Dafydd Bebb, Cefyn Barton, Gareth Williams, Gerallt Williams a Dylan Jones yn un t卯m a Luned Parry, Iwan ac Irfon Owen yn y llall. Cystadleuaeth i wneud teclyn arbennig ydoedd. Er cael hyfforddiant dwys gan ddau beiriannydd, colli fu hanes y ddau d卯m, a daliant i honni hyd y dydd heddiw eu bod wedi cael cam!
Hwyl yr Eisteddfodau
Fel llawer Aelwyd arall cawsom brofi sawl llwyddiant Eisteddfodol - a do, fe gawsom gam lawer gwaith. Llawer gwell yw cofio'r pethau da o'r Eisteddfodau. Pwy all fyth anghofio'r hwyl gafodd yr hogia - dan arweiniad Marian Thomas yn dysgu ac yn ennill ar ganu 'Snwcer i Mi'.
Enwogion yr Aelwyd
Diddorol erbyn hyn yw gweld sawl aelod sy'n amlwg ym myd y cyfryngau neu yn perfformio - Si么n Tecwyn, Janet Aethwy, Huw Garmon, y brodyr Emyr, Nia Lloyd Jones a Rhun ap Iorwerth. Heb anghofio am y dawnus Alun Darbyshire ar yr obo.
Bu cryn fri ar y t卯m Cwis hefyd. Ar un cyfnod drwodd ir ffeinas sawl tro, diolch i Luned am ei gwybodaeth anhygoel o recordiau pop Cymraeg, ac yn y diwedd cyrraedd y brig fel enillwyr cenedlaethol!
Trefnwyd sawl taith ddifyr ar foreau Sadwrn neu yn ystod y gwyliau. Yn 么l y llyfr cofnodion bu Uwch Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Derec Llwyd Morgan yn cyd-arwain taith draw i Ffynnon Lligwy! Ymwelwyd hefyd 芒 ' Ty Mawr Wybrnant, Penmon, Din Lligwy a fferm y Coleg yn Abergwyngregyn. Dringwyd yr Wyddfa yn y gobaith o weld y wawr yn torri, ond siom a gafwyd. Bu sawl ymweliad 芒 theatrau, neuaddau chwaraeon, bowlio deg a sglefrio, heb anghofio yr ymweliadau cyson wnaed 芒 Glanllyn.
Ymddangosodd cwmni drama Yr Aelwyd yng Ngwyl Ddrama Genedlaethol yr Urdd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin hefyd.
Chwith meddwl bod nifer a fu mor eithriadol o gefnogol ir Aelwyd dros y blynyddoedd bellach wedi ein gadael. Cofiwn mewn chwithdod am eu brwdfrydedd a'u gweithgarwch dro yr Aelwyd a'r Urdd yn gyffredinol - Alwyn I. Williams, y Trysorydd cyntaf; Trefor Morgan; Meirion Penny ac Idris Davies, y gweinidog fu'n pwyllgora, cefnogi ac annog dros gymaint o flynyddoedd. Bun fraint cael cydweithio 芒 hwy.
Aduniad mis Mai
Bu'n dipyn o gamp ceisio olrhain hynt a helynt bron i dri chant o aelodau, er mwyn cysylltu 芒 hwy i roi gwybodaeth iddynt am Aduniad Aelwyd Menai a gynhelir yn y Fic, nos Wener, 2 Mai 2003. Huw Edward, Erddig gynt sy'n trefnu' noson a'n gobaith yw y cawn weld nifer dda ar y noson yn y Fic. Mae llythyr ar ei ffordd atoch cyn bo hir gyda'r trefniadau.
Os oes gennych luniau or Aelwyd buasem wrth ein boddau yn cael eu benthyg, fel y gallwn drefnu arddangosfa fechan ar y noson.
Am ragor o fanylion a thocynnau yr Aduniad cysylltwcl naill a Huw Edward ar 01248 717897 neu Alwyn ac Ell Owens ar 01248 712573.
Atgofion Alwyn ac Ella Owens, Carwyn.