Yn ystod y cyfarfod bu i Mr Dafydd Wigley gyflwyno tlysau i ddwy sydd wedi gwasanaethu'r Mudiad ar Ynys M么n ac yn arbennig felly ym Mhorthaethwy.
Mae Mrs Doris Jones wedi bod yn rhan o waith MENCAP ar Ynys M么n am tros 40 mlynedd, ac am tros 30 mlynedd yn un o arweinwyr ac yn drefnydd Clwb y Gateway, Porthaethwy (sydd yn dod o dan nawdd MENCAP).
Am 30 flynyddoedd mae Mrs Eirlys Prytherch wedi bod un o'r arweinwyr, ac am lawer blwyddyn yn Ysgrifennydd. Yng nghyfarfod olaf y Clwb cyn gwyliau'r haf daeth y ddwy a'u tlysau i ddangos i aelodau'r Gateway.
Nid yw'n ormod dweud y byddai dyfodol y Clwb wedi bod yn ansicr ond am ffyddlondeb diflino Doris ac Eirlys ac ychydig eraill. Erbyn hyn, mae mwy o wirfoddolwyr, ond mae angen
arweinwyr i'r dyfodol.
Trwy gyfrwng Papur Menai llawenhawn yn yr anrhydedd a roddwyd iddynt, a diolchwn am eu gwasanaeth sydd, wrth gwrs, yn parhau.
|