Y dyddiau hyn, gyda Gweinidogion yn lleihau mewn nifer, rhywbeth yn perthyn i'r gorffennol fydd y rhai a elwir yn 'Blant y Mans'. A dyna oedd Alwyn - Plentyn y Mans - un o bedwar o blant y Parchedig John Edward Hughes a'i briod Margaret Elen; ac yn briodol iawn, fel Plentyn y Mans, ganwyd Alwyn ar ddiwrnod Trip Ysgol Sul Horeb, ar 24 Gorffennaf 1929. Roedd ei fam bob amser â drws agored i bawb; ac mae'n rhaid fod ei dad yn ddyn graslon dro ben, oherwydd byddai Alwyn yn dod a'i ffrindiau adref i Lys Menai i chwarae dartiau yn y study yng nghanol Geiriadur Charles ac Esboniadau ei dad, ac ambell bluen yn methu'r bwrdd ac yn mynd i gefn y llyfrau - ond ychydig iawn fyddai dad yn cwyno! Bu'n ddisgybl ysgol a myfyriwr Coleg llwyddiannus iawn. Cafodd ei addysg elfennol yma yn y Bryn, ac yna Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yna aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle bu'n astudio Hanes a Ffrangeg a chael Gradd Anrhydedd mewn Ffrangeg. Weithiau, mae llys-enwau Coleg yn adlewyrchu y math o gymeriad a phersonoliaeth sydd gan yr un a lys-enwir. Roedd Alwyn yn fachgen golygus, ac fel ei frawd, David roedd ganddo fop o wallt cyrliog. Mops fyddai llys-enw David, ac felly'n naturiol gan fod na un Mops yn barod cafodd Alwyn ei alw'n Mops Bach gan ei gyd- fyfyrwyr a Mops Bach oedd yn arwain y canu ar fore Sadwrn yn y Coleg.
Bwriodd ei hun i fywyd cymdeithasol a diwylliannol y Coleg, a bu'n aelod o 'gast' y ddrama 'Llewelyn Fawr' gan Thomas Parry ac Alwyn oedd Gruffydd, mab Llywelyn Fawr yn y ddrama. Ymhen blynyddoedd wedyn medrai adrodd talpiau o'r ddrama honno ar ei gof.
Cafodd yrfa ddiddorol dros ben wedi bwrw ei brentisiaeth am flwyddyn mewn ysgol yn Ffrainc daeth i Lannau Mersi ac yno y bu'n dysgu hyd ei ymddeoliad ym 1986. Bu'n athro yn Ysgol Breifat Merchant Taylor yn Crosby, gwnaeth ei National Service yn yr RAF yn Lerpwl lle bu'n Swyddog Addysg a bu hefyd yn Ddirprwy brifathro Manor High School.
Trwy'r amser roedd hefyd yn aelod ffyddlon yng Nghapel Cymraeg Waterloo a dyna i chi'r esboniad pam y cafodd ei ail lys-enw, sef 'Alwyn Waterloo'. Er mai Cymro oddi cartref fuodd o am amser maith, wnaeth o ddim anghofio ei wreiddiau na'i fagwraeth, a mawr oedd ei barch at ei rieni. Pan oedd ei fam yn oedrannus ni pheidiodd a theithio'n rheolaidd bob penwythnos i'w gweld.
Wedi ymddeol ddaru o ddim pendroni lle y dylai fyw. Dychwelodd i Fôn ac oriawr ar ei arddwrn - sef rhodd gwerthfawrogiad Cyngor Metropolitan Bwrdeisdref Sefton o'i ymroddiad a'i lafur ym myd addysg. Wedi ymgartrefu yma yn y Bryn ddaru o ddim anghofio ei hen gyfeillion a'i gyd-athrawon yn Lerpwl, a'r hyn a wnaeth oedd eu gwahodd i'r Bryn i chwarae criced yn erbyn y timau lleol.
Roedd gan Alwyn ddiddordeb mewn chwaraeon o bob math - ym 1948 David ac yntau'n sefydlu Clwb Criced y Bryn; ef hefyd roddodd fodolaeth i'r Clwb Snwcer. Person felly oedd Alwyn - un gweithgar a blaengar. Bu ei brofiad ym myd addysg o gymorth mawr iddo fel Ysgrifennydd Llywodraethwyr Ysgol y Bryn. Dyn oedd Alwyn oedd eisiau gwneud pob peth yn iawn, ac weithiau gwiw oedd mynd yn groes i'w benderfyniadau a'i argyhoeddiadau.
Enghraifft dda ohono fel un a wnâi bob peth yn fanwl a thrwyadl oedd y Map a wnaeth o'r pentref yn y dyddiau gynt, yn cynnwys y man siopau a'r gwahanol weithdai ac ati; ac aeth a dosbarth o blant o gwmpas y pentref, a gofyn iddynt sylwi fel roedd cymaint o bethau wedi newid. Aeth hefyd â grŵp o blant i'r capel a rhoi hanes yr Achos iddynt mewn ffordd hynod o ddiddorol.
Gellir dweud yn onest ei fod ymhlith gweithwyr dycnaf Papur Menai. Bu'n brif ddosbarthwr y Papur ac ef hefyd oedd y Trysorydd - fu Papur Menai ddim mewn dyled wedi iddo ef gymryd yr awenau. Bu'n gyfrifol am drefnu'r gwaith plygu, a gofalu fod y Papur yn cyrraedd y siopau erbyn bore Gwener yn ddi-ffael.
Os derbyniai rodd tuag at gostau'r Papur gofalai fod hynny'n cael ei gydnabod yn ysgrifenedig ym Mhapur Menai. Ei Adroddiad Ariannol oedd un o uchelfannau'r Cyfarfod Blynyddol - gresyn na chafodd weld pwy oedd ei olynydd, gan y bwriadai ymddeol fel Trysorydd y flwyddyn nesaf.
Roedd yn aelod selog o Glwb Cinio'r Foel o'i ddechreuad. Ond yma yn y Bryn oedd ei galon, yn arbennig gyda'r Achos yma yn Horeb. Fe'i codwyd yn flaenor ym 1966 a chymerai ei swydd o ddifrif ac yr oedd y tu hwnt o ffyddlon i holl gyfarfodydd yr eglwys. Fel dyn y 'Llyfr Bach' roedd yn gyfrifol am y cyhoeddiadau, a bu iddo gadw urddas a safon y pulpud i'r diwedd.
Fel Trysorydd roedd yn ofalus iawn ar hyd y blynyddoedd o'r gwahanol gasgliadau. Ail-sefydlodd y Cwmni Drama efo criw o bobl ifanc. Roedd ganddo barch at yr Achos a glynai wrth ei egwyddorion, a dangosai yn eglur beth a deimlai efoedd ffordd Duw. O wneud rhywbeth gwnâi o'n drylwyr, ond roedd yn hoffi cael ei ffordd ei hun a byddai hyn yn achosi helynt weithiau - pan oedd rhywun arall ddim yn cytuno. Yn ystod fy ngweinidogaeth yma bu'n driw a ffyddlon i mi ac felly y bu i'r Parchedig Emlyn Jones a'r Parchedig Gerallt Lloyd Evans.
Oedfa Bregethu Dechrau'r Flwyddyn eleni dan arweiniad y Parchedig Emlyn Richards mai dyma'r tro olaf y byddem yn ei weld mewn oedfa. Cawsom i gyd ein dychryn gan ei farwolaeth sydyn, ddirybudd. Mae'r hyn ddywedwyd mewn englyn gan y Parchedig Dafydd Lloyd Hughes yn wir am Alwyn hefyd:
Yn ddiwyd ufuddhaodd- a rhoes oes
I'r saer a'i prentisiodd;
O'r newydd fe'i saernïodd
Yn ei fold i ryngu'i fodd.
Wrth ffarwelio ag Alwyn rydym yn cofio amdano fel person unigryw. Doedd na ddim dau Alwyn Hughes. Roedd o'n gyfaill a chymwynaswr i gymaint o bobl. Y Bryn oedd ei Jerwsalem ac mae wedi mynd o'i gysegr daearol i'r cysegr nefol, ac os oes canu yno, Alwyn fydd yn arwain y gân.