Enwebwyd gardd David a Glenys gan ffrind iddynt. Bu'n rhaid iddynt sgwennu ychydig o hanes yr ardd ac anfon lluniau ohoni i Gerallt Pennant. Yn y man daeth criw yno i ffilmio'r ardd gan ei bod yn un o chwech ar y rhestr fer. Dywed Glenys eu bod wedi cael llawer o hwyl hefo'r criw ffilmio.
Wrth reswm roedd David a Glenys wrth eu boddau yn ennill y wobr. Mae'r ardd yn un lliwgar gydag amrywiaeth fawr o blanhigion ym mhob twll a chornel. Mae ffrwyth llafur gwaith caled dros gyfnod o ddeng mlynedd ar yr ardd sy'n ddwy acer o ran maint. Porfa wyllt a danadl poethion oedd un rhan o'r ardd ac roedd tipyn o waith clirio'r tir hwnnw.
Symudodd y cwpl i Landegfan ddeng mlynedd yn 么l o Surrey. Mae'r ddau'n hanu o ochrau Manceinion ac wedi eu magu yno - ond 芒 Chymraeg cywir iawn a rhugl. Bu'r ddau ym Mangor yn y Coleg, Glenys yn y Coleg Normal a David yn y Brifysgol. Symud i Lundain wedyn a threulio eu gyrfa gwaith yn Ne Lloegr. Bu David yn gweithio gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth am ddeng mlynedd ar hugain.
Mae gan Glenys a David dri o blant, dau ohonynt a'u teuluoedd yn byw yn Llundain ac un ferch a'i theulu mor bell 芒 Kuala Lumpur, Malaysia. Mae'r ardd yn mynd a llawer o amser y ddau yn enwedig yn yr haf ond maent yn amlwg yn cael llawer o bleser a mwynhad o fod allan yn yr ardd. Ar sawl achlysur mae'r ardd wedi cael ei hagor i'r cyhoedd i'w mwynhau gan eraill.
|