Yn dilyn gosod yr organ newydd yn ei lle, - mae'n gweithio'n gampus - s诺n bendigedig - a rhoi'r groes fach o waith celfydd ein ffrind Mr Idris Alan Jones, Llandegfan, uwchben y pulpud, bu prysurdeb pellach yn ystod y dyddiau diwetha.
Roedd Leslie Randall, Trefnant, yno - un sy'n gwneud cymaint o gymwynasau yn ddi-ffws a di-sylw i'n helpu yn y capel - gyda'i dim bach o aelodau, yn brysur yn datgymalu rhai o'r seddi pren ymlaen y capel.
Cawn weld y cyfan wedi ei orffen yn fuan.
Gyda llaw Leslie - Cwmni Thomas Roberts and Co, Y Borth, a osododd y seti pren presennol yn eu lle yn wreiddiol. Roedd hynny yn 么l tua 1967. Daeth y seddau 'newydd' i'r Tabernacl o gapel yn Lerpwl, hynny yn ystod Gweinidogaeth y diweddar Barchedig Emrys Jones.
Wrth eu tynnu r诺an daeth Leslie o hyd i hen ddarn deg ceiniog 1948 (deuswllt bryd hynny) o dan y llawr!
|