un llond llwy de o bowdr sinamonPopty
Y gwres i gychwyn 150潞C, popty ffan 130潞C, Nwy 2
Dull
1. Rhowch y menyn, y siwgr, y ffrwyth, sudd a chroen yr orena chroen y lemwn a'r Cherry Brandy (neu frandi) mewn sosban fawr. Dewch a'r cyfan i'r berw'n araf a'i droi trwy gydol yr amser nes bydd y menyn wedi toddi. Trowch y gwres i lawr a'i adael i ffrwtian am 10 munud gan gymysgu o dro i dro. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gadewch i'r cynnwys oeri (tua awr).
2. Yn y cyfamser, irwch a leiniwch y tun cacen gyda dau drwch o bapur menyn.
3. Tostiwch y cnau yn y popty ar y gwres uchod am tua 10 munud. Gofalwch nad ydynt yn llosgi. Ar 么l iddynt oeri, malwch nhw'n fras.
4. Ychwanegwch y cnau hyn, yr almonau m芒l a'r wyau at gynnwys y sosban a chymysgwch y cyfan yn drwyadl.
5. Gogrwch y blawd, y powdr codi, y sbeis cymysg a'r sinamon i mewn i'r sosban a chymysgwch y cyfan yn ysgafn ond yn drwyadl.
6. Rhowch y gymysgfa yn y tun cacen a'i lefelu a chefn llwy fwrdd.
7. Pobwch am 3/4 awr ac yna trowch y gwres i lawr i 140潞C, (l20潞C ffan), Nwy 1 a choginiwch am 1 1/2 - 1 3/4 awr eto nes bydd y deisen yn frown a chadarn. Os gwelwch, yn ystod y cyfnod hwn, bod wyneb y deisen yn dechrau brownio'n gynnar, gorchuddiwch 芒 ffoil. Ar y diwedd, gwthiwch sgiwer i mewn i ganol y deisen i weld os yw'n barod. Os daw allan yn l芒n, mae'r deisen yn barod.
8. Gwnewch dyllau gyda sgiwer dros wyneb y deisen a defnyddiwch lwy fwrdd i dywallt y 4 llond llwy fwrdd o Cherry Brandy (neu frandi) dros y deisen fel ei fod yn treiddio i mewn drwy'r tyllau tra bydd y deisen yn oeri.
9. Ar 么l iddi oeri'n gyfan gwbl, tynnwch hi allan o'r tun. Pliciwch y papur i ffwrdd ac yna lapiwch hi mewn papur menyn ac wedyn mewn ffoil. Gellir ei chadw mewn tun am tua 3 mis neu wedi ei rhewi am 6 mis.