Ganwyd Rheinallt, a'i fagu hyd nes yn bump oed, yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, yn fab i'r diweddar Barchedig Richard a Mrs Elizabeth Thomas. Roedd gwreiddiau ei dad yn Nhalwrn, M么n, a'i fam yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug. Hi gyda llaw oedd ail aelod Urdd Gobaith Cymru erioed, yn perthyn i'r Adran gyntaf un - honno yn Nhreuddyn.
Cyn hir gadawodd y teulu fro Ceiriog am Aberfan, Morgannwg, gyda Rheinallt yn mynychu yr union Ysgol Gynradd, Pant Glas, a chwalwyd yn nhrychineb mawr Hydref 1966.
Arhosodd y teulu yn y De hyd nes roedd Rheinallt yn unarddeg oed. Yna yn 么l i'r Gogledd, i Fodfari ac yntau i Ysgol Ramadeg Dinbych ac wedyn i Brifysgol Cymru, Bangor.
Merch y mans ydy Rowena hefyd, wedi ei geni yn Llansannan, yn ferch i'r diweddar Barchedig Robert Owen a Mrs Owen. Mae 'na w锚n yn dod i'w llygaid - gw锚n sy'n gwneud i chi deimlo bod Bro Aled wledig, ei diwylliant - cerdd a cherdd dant dan Gwen Wyn Jones - a llawer mwy, wedi chwarae rhan bwysig yn ei magwraeth hi.
Fodd bynnag, yn bymtheg oed, symudodd Rowena a'i dau frawd, Arwel Ellis a Wynford Ellis Owen, i Ddyffryn Nantlle, a'u tad yn Weinidog uchel ei barch ar Eglwysi'r Presbyteriaid, yn Llanllyfni a Nebo.
O Ysgol Ramadeg Penygroes aeth Rowena i'r Barri i'w hyfforddi i fod yn athrawes ysgol gynradd. Yn y man aeth ffawd (neu drefn!) a hi i gynhadledd Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam. Pwy gyfarfu hi yno tybed? 'Dach chi'n iawn...Rheinallt!
Roedd o wedi cwblhau ei radd mewn Astudiaethau Beiblaidd yn llwyddiannus ym Mangor ac yn athro yn Bolton. Daeth Rowena o'r Coleg, ac am gyfnod bu'n athrawes yn y Waunfawr, ond O! Roedd Rheinallt yn bell, a dim ceir o gwmpas, felly i ffwrdd a hitha', am Bolton!
Priododd y ddau ym 1963, ac ym 1966 ganwyd Elfyn, gyda Nia yn dod yn gwmni iddo ym 1968. Roedd 1968 yn flwyddyn fawr! Blwyddyn cyfle i ddod yn 么l i Gymru, Rheinallt i'r Coleg Normal a Rowena i fagu'r ddau fach ar aelwyd newydd, yn Llanfairpwllgwyngyll. Cyfnod difyr.
Un flynedd ar ddeg yn ddiweddarach penodwyd Rheinallt yn sefydlydd/bennaeth y Ganolfan Addysg Grefyddol newydd ym Mangor a bu ei waith brwdfrydig yno am 21 mlynedd o ddechrau'r '80au yn gyfraniad mawr. Casglodd a chyhoeddodd ddeunyddiau fil i ysgolion, bu paratoi deunyddiau Cymraeg yn bwysig iddo. Arweiniodd brosiectau a threfnu cyhoeddiadau crefyddol di-ri. Mae'n dal i gofio cefnogaeth gyson Syr Wyn/Yr Arglwydd Roberts o Gonwy pan oedd angen.
Gwn yn dda am ei siom pan ddaeth newidiadau a orfododd i'r Ganolfan gau ei drysau rai blynyddoedd yn 么l ond ni bu eich gwaith yn ofer Rheinallt.
Falle'n bod ni i gyd yn y b么n, yn bobl ar gyfer cyfnodau penodol. Yn Ynad
Heddwch ers dros ugain mlynedd ac yn Gadeirydd y Fainc ym M么n, gwelodd sawl cyfe i wasanaethu ei gymdeithas. Bu Rhos y Gad a'r Ysgol Sul - yn Llanfair a thros Gymru - yn bwysig i'r ddau erioed. Daliodd ef y rhan fwyaf o'r swyddi gwirfoddol hynny sy' nghlwm wrth waith capel, mewn Cyfarfod Misol ym M么n ac yn Llywydd Sasiwn y Gogledd. Creda'n gryf mewn pwysigrwydd cynulleidfa gynnes yn ein capeli heddiw. Closiwn at ein gilydd fwyfwy fel aelodau.
Wedi magu'r plant, aeth Rowena yn 么l i addysgu, gan dreulio'r ddau gyfnod hwyaf yn Ysgolion Llanfair (12 mlynedd) - yn y man yng ngofal adran y plant lleiaf, cyn symud ym 1983 yn Ddirprwy i Ysgol yr Hendre, Caernarfon, gan ymddeoli oddi yno rai blynyddoedd yn 么l.
Mwynhai waith yr Urdd bob amser a thrysora'r cof am lwyddiannau ym myd cerdd dant tra yn Llanfair, C么r Rhianedd M么n 'stalwm, Merched y Wawr, organydd yn y capel, WRVS. Dyma hi!
O hyn ymlaen?
Pawb ohonon ni'n mynd yn hyn ond wneith y ddau yma ddim segura reit si诺r! Wedi cartrefu yn y Borth ers tua ugain mlynedd bellach a Rheinallt yn Gynghorydd Tref, diflannant yn bur aml at Elfyn - meddyg ymgynghorol (anaestheteg) ydi o - a Sarah a'r plant yn Plymouth neu at Nia a Nick (Bennett) a'u plant hwythau yng Nghaerdydd. Anelant at grwydro, nid carafanio erbyn hyn efallai, ond ceisio mynd i haul Madeira'n amlach!
Cip bach, bach ar ddau fywyd llawn. Diolch am y croeso.