Mae'r gylchdaith a gynlluniwyd gan aelodau Cyngor Bro Llanfair Pwllgwyngyll yn rhoi cyfle i'r cerddwr ymweld a safleoedd hanesyddol yn ogystal a gweld rhai o olygfeydd mwyaf godidog a thrawiadol M么n. Fe gymer y daith sy'n cychwyn yng nghanol y pentref rhyw ddwyawr i'w chwblhau. Cafwyd nawdd ariannol i'r cynllun gan Menter M么n, Cyngor Sir Ynys M么n, Bwrdd Datblygu Cymru a'r Gymuned Ewropeaidd. Yn ogystal 芒 hyn cafwyd cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gobaith y Cyngor Bro yw y bydd y daith yn gymorth i ddenu cerddwyr o bell ac agos i Lanfair, ac y bydd y byd a'r betws yn sylweddoli fod yna fwy i'r pentref na'r enw hir. Am fanylion pellach cysylltwch 芒 John Gwilym Jones - 01248 714196 neu Gerwyn James - 01248 712900.
|