Gobeithio fydd hyn yn hwb i Eurwyn a Gillian Williams o'r Borth, sydd newydd wireddu breuddwyd fu'n cyniwair am dros ddeng mlynedd, a hynny trwy gychwyn cwmni Crwydro M么n - Anglesey Walking Holidays.
Gwyliau cerdded sy'n cael eu cynnig gan y cwmni i'r rheini sy'n hoffi cerdded go iawn!, h.y. rhwng 7-13 milltir y dydd), a hynny ar hyd y 125 milltir o Lwybr yr Arfordir. Mae'n ffordd fendigedig o ddod i adnabod yr Ynys, gan gerdded o un lle i'r llall, ac aros mewn pentrefi gwahanol ar hyd y daith. Mae'r cwmni yn trefnu'r cwbwl - llety, cludiant, a symud bagiau o Westy i Westy. Cludir y teithwyr bob dydd i ddechrau'r daith ac yn 么l wedyn i'r gwesty ar ddiwedd y dydd gyda cherbyd
arbennig y cwmni. Dros ddeuddeg mlynedd yn 么l, cyn geni eu merch Lisa, cerddodd Eurwyn a Gillian y llwybr cyfan am y tro cyntaf, gan ryfeddu at ogoniannau naturiol Ynys M么n. Fe brofon nhw bob math o olygfeydd godidog a chroesi traethau melyn bendigedig, amryw ohonyn nhw na ellid eu cyrraedd ond mewn cwch neu ar droed. Aiff y llwybr 芒 chi ar draws ardaloedd o Harddwch Arbennig Naturiol a gwarchodfeydd natur, at safleoedd hanesyddol a chyn卢hanesyddol, ac heibio ambell i amgueddfa a chanolfannau treftadaeth. Mae'r Ynys yn frith o fywyd gwyllt ac yn nefoedd i adarwyr a'r tirwedd yn rhyfeddod i ecolegwyr.
Mae Crwydro M么n yn hyblyg iawn gyda'r hyn mae nhw'n gynnig - gallwch ddewis peidio cerdded o gwbwl ambell ddiwrnod gan ddefnyddio'r amser i ymweld 芒 thref hanesyddol Biwmares, neu gymryd trip diwrnod i Ddulyn hyd yn oed.
Hefyd mae modd trefnu tripiau dyddiol/penwythnosol i bobl ardal Papur Menai os ydyn nhw eisiau cerdded unrhyw un o'r llwybrau a chael gweld rhyfeddodau naturiol yng ngogledd yr Ynys, fel Ynys Fydlyn, Ynys Lawd a'r Bwa Gwyn a'r Bwa Du. Os am fwy o wybodaeth cysyllter 芒 Crwydro M么n 01248 713 611 neu ewch i'r wefan www.crwydromon.com.
|