Sefydlwyd Diwrnod y Llyfr gan UNESCO er mwyn hyrwyddo darllen a dathlwyd y diwrnod mewn o leiaf deg ar hugain o wledydd y llynedd. Bu Mrs Edwina Clarke, ein Cydlynydd Iaith, yn brysur iawn yn cynllunio a pharatoi gweithgareddau ar gyfer y diwrnod i'w wneud yn ddiwrnod arbennig unwaith eto eleni. Un o atyniadau'r diwrnod yma yn Llanfair yw bod y plant a'r athrawon yn gwisgo fel un o gymeriadau llyfr arbennig; gall fod yn hoff lyfr neu unrhyw lyfr sydd wedi dal eu sylw. Roedd llawer o hwyl a chynnwrf y bore hwnnw wrth i'r plant gyrraedd a sylwi ar y gwahanol wisgoedd, rhai yn amlwg o lyfrau poblogaidd ac eraill yn llai amlwg ac yn destun holi a thrafod. Ar 么l cofrestru roedd pawb wedi ymgynnull yn y Neuadd a chafodd pob dosbarth gyfle i ddangos a thrafod eu gwisgoedd a'r cymeriadau o'u hoff lyfrau.Ar 么l dychwelyd i'r dosbarthiadau roedd pawb o'r Adran Iau ar bigau'r drain tra'n disgwyl am ddau o s锚r teledu sef Mirain Haf ac Owain Edwards (Aled) o'r rhaglen boblogaidd Rownd Rownd i ddarllen stori iddynt. Yn dilyn y stori roedd cyfle i bawb holi'r actorion ifanc am eu gwaith ar y set yn cynhyrchu'r rhaglen a'r ddau yn pwysleisio pa mor bwysig oedd darllen i'w swydd fel actorion. Bu dosbarthiadau Adran y Babanod yn brysur yn chwilio am lyfrau hen a newydd a chafwyd nifer o weithgareddau i ddilyn gan gynnwys cyfle i ddylunio cloriau i'w hoff lyfrau. Bu plant Dosbarth Derbyn a BIwyddyn 1yn gwylio'u hoff gymeriadau ar y sgr卯n fawr yn y Neuadd ac yna'n chwilota am y llyfrau i'w darllen wedyn. Am un ar ddeg y bore, yn 么l y drefn sydd wedi sefydlu tros y blynyddoedd diwethaf, daeth yr Adran Iau a BIwyddyn 2 i'r Neuadd i gymryd rhan yn y Parti Llefaru Cenedlaethol. Ers sawl blwyddyn bellach mae llawer o Ysgolion Cymru yn ymgynnull ar yr un amser i gymryd rhan yn y darlleniad o gerdd Bardd Plant Cymru, sef Menna Elfyn eleni. Daeth y Llyfrgellydd Plant a Phobl Ifanc, Mrs Glenda Williams, o amgylch nifer o ddosbarthiadau i drafod pwysigrwydd darllen a'r gwasanaeth sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd lleol; roedd yr ymateb mor dda fel na lwyddodd Mrs Williams i gyrraedd y dosbarth olaf ar ei rhestr! Cynhaliwyd gweithdai barddoni i BIwyddyn 2, 3 a 4 gyda'r bardd Gwion Hallam a chafwyd prynhawn difyr yn trafod rhai o'i gerddi a chefndir ei waith. Cafwyd darlleniad effeithiol iawn o rai o'i ffefrynnau i gyfeiliant drwm Affricanaidd, a roddodd deimlad a gwefr arbennig i'r perfformiad. Bu llawer o weithgareddau eraill trwy gydol y dydd ac ar ddiwedd y diwrnod gorffennwyd gyda phob athro yn cyfnewid dosbarthiadau i ddarllen stori o'u dewis. Ar 么l diwrnod prysur a buddiol iawn aeth pawb adref gyda thocyn llyfr fel cyfraniad at eu llyfr newydd nesaf.
|