大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Mike, Elgar, Eira a Bet yn Nant Fach Patagonia - rhan 2
Gorffennaf 2003
Mwy o hanes y daith i Batagonia
Dydd Sul
Codi'n fuan a'r tywydd yn boeth iawn. Aeth rhai o'r grwp i lawr am y dociau, ac yno fe dr茂odd cwpl ddwyn odi ar Mike trwy chwistrellu stwff gwyn ar ei drowsus ac yna trio ei lanhau.

Gweiddodd Mike ar y lleill a bygwth y ddau gyda'r Heddlu, aethant yn flin a chwistrellu'r stwff ar ben Wil a Bet druan! Rhedodd y ddau leidr i ffwrdd a neidio i mewn i dacsi cyfagos. Pawb wedi dychryn!

Fe aeth Cathrin, Sally a fi i'r ganolfan siopio anferth yn Stryd Florida, y Pacifico. Dyma chi le am siopio genod! Bob math o nwyddau i'w gael yno a phopeth mor rhad.

Ar 么l cinio cyfarfod 芒 Miriam, geneth o Trelew ond sydd ers blynyddoedd bellach yn byw yn Buenos Aires ac yn dysgu Saesneg yno. Roedd Miriam yn mynd a ni o gwmpas y ddinas mewn bws mini a rhoi hanes y dref i ni. Gweld yr adeiladau urddasol, canol Buenos Aires, cof-golofnau crand ym mhob man. Gwelsom yr adeilad pinc ei liw, lle arferai Eva Peron siarad 芒'r bobl o uno'r balconis, a lle ffilmiwyd Madonna yn canu Don't Cry for me Argentina yn y ffilm Evita. Bu么m hefyd yn ymweld 芒'r fynwent lle claddwyd Eva Peron.


Wrth ymyl yr adeilad pinc ei liw mae parc bach a cof-golofn yno ac wedi ei liwio ar wah芒n mae 'scarff pen' dynes. Arwyddoc芒d hwn yw dyma beth mae'r mamau yn wisgo am eu pennau, rhai gwyn yn unig, pan maent yn cerdded o gwmpas y parc a'r gof-golofn bob pnawn dydd Iau i gofio am eu plant sydd ar goll yn Argentina ers blynyddoedd. Nid yw'r mamau'n gwybod beth sydd wedi digwydd i'r plant hyn.

Aethom i lawr am y dociau, rhain wedi eu hadnewyddu fel yr Albert Docks, Lerpwl ac yn foethus iawn i'w gweld. Heibio cae p锚l-droed anferth, Boca Juniors ac i'r rhain arferai y p锚l-droediwr Maradonna chwarae pan oedd yn ifanc.

Ymlaen i La Boca, dyma le diddorol, llawn o dai bach lliwgar, siopau, caffis, marchnad ar y stryd a'r lle gorau i weld y Tango yn cael ei ddawnsio. Pawb ohonom wedi mwynhau ymweld y fan hyn a prynais b芒r o glust-dlysau cerrig pinc, yr enwog Inca Rose, dim ond ar gael yn yr Ariannin.

N么l ar y bws ac ymlaen i gyfarfod 芒 aelodau Cymdeithas Cymraeg Buenos Aires. S么n am groeso a bwyd ardderchog bara wedi ei grasu gartref, jam cartref a dim s么n am gacen siop yn unlle. Sgwrsio llawer a chael hanes pawb. Sarah, Rona, Cali a'i gwr a Rachel a llawer eraill. Llawer ohonynt o'r Wladfa wedi dod i weithio yn y British Hospital yn Buenos Aires fel nyrsus, ond Rachel, Ysgrifenyddes oedd hi wedi priodi American Ambassador ac wedi bob yn byw yn Washington am 36 mlynedd. Mae wedi colli ei gwr, gwerthu ei thy ac wedi mynd yn 么l i'r Gaiman i fyw.

Gorffen y diwrnod gyda cinio arall gyda'r nos am 9 o'r gloch. Maent yn bwyta'n hwyr iawn yn yr Ariannin! Fory Y Wladfa!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy