Mae Annie Owen yn byw yn Tyddyn Mostyn, Porthaethwy, ac wedi bod yn
gweithio yn ddi-d么r yng Ngwesty'r
'Anglesey Arms' ym Mhorthaethwy
am gyfnod o bedwar deg chwech mlynedd fel morwyn siambr. Ddydd Sul, 22 Tachwedd, daeth Simon Lees Jones, un o benaethiaid Bragdy 'L. W. Lees', Manceinion, i ginio a chyflwyniad arbennig yn yr 'Anglesey Arms' yn un
swydd er dangos diolchgarwch a pharch
i Annie am ei gwasanaeth maith i'r Bragdy sydd yn berchen ar y gwesty.
Ganed Annie ym mhlwyf Llangaffo yn
1921, ac roedd ei thad yn gweithio yn y 'Co-operative' yn Gaerwen.
Aeth i Ysgol Gynradd Llangaffo ac yna am gyfnod i Ysgol Ramadeg Llangefni, cyn dod gartref i helpu ei mam i edrych ar
么l ei mam oedd yn orweddog, ac yn byw
yn Cae Ocyn gerllaw.
Gyda llaw wedi marwolaeth ei nain prynwyd Cae Ocyn gan y diweddar Athro Charles Evans, Prifysgol Bangor a'i wraig Antice.
Pwysleisiodd Annie wrthyf bod ei theulu, yn aelodau ffyddlon iawn yng Nghapel Bethania, Llangaffo.
'Wedi colli ei thad a'i nain, aeth Annie i weithio am gyfnod hapus o saith mlynedd gyda Mr Knock yng Ngerddi
'Holland Anns: ond daeth y gwaith yn rhy drwm iddi, ac yn 1963 cafodd waith
fel morwyn siambr yn yr 'Anglesey', fel y
geilw hi y lle.
Symudodd Annie i fflat
newydd sbon yn Tyddyn Mostyn,
Porthaethwy, gan fod y gwaith yn
dechrau am saith o'r gloch y bore.
Roedd yn adnabod Lydia Edwards a Bessie'r Rallt yn dda, ac oherwydd
hynny daeth yn aelod ffyddlon o Gapel y
Tabernacl.
Ers 1963 felly, mae Annie
wedi rhoi gwasanaeth di-dor fel morwyn
siambr i Fragdy 'J. W. Lees', ac mae'n
dweud iddi fod yn hapus iawn yno, yn cael brecwast a chinio yno yn ychwanegol.
Bu'n forwyn hynod
ffyddlon a gweithgar, byth yn torri corneli, ond gwneud y gwaith i safon uchel, ac yn batrwm i weddill y staff yno.
Mae'n cyfaddef iddi gael profiad, trist a llawen yn ystod ei gyrfa.
Fe fu gwesteion farw yno, a phrofiad trist iawn oedd ceisio cydymdeimlo 芒 theuluoedd
yr ymadawedig.
Ar y llaw arall mae cofio dyddiau hapus, rhieni myfyrwyr oedd yn aros i seremoni graddio eu plant yn y Brifysgol, a'r dathlu fyddai digwydd wedyn.
Chwe mlynedd yn 么l ar 么l cyflawni gwasanaeth o ddeugain mlynedd gyda'r Bragdy, daeth Simon Lee Jones i lawr Fanceinion mewn 'Rolls Royce' i'w chludo i Fanceinion i ginio mawreddog.
Dymunwn yn dda i Annie ar
hymddeoliad, a bydd yn gwneud yn fawr o'r cyfle i drafaelio gwledydd y byd.
Dyna fu ei phrif ddiddordeb, sef
trafaelio, ac eisoes mae wedi bod yn
China, Samoa, Fiji, Seland Newydd, Awstralia, Alaska, Unol Daleithiau America a bron pob gwlad yn Ewrop.
Mae cwmn茂au Seren Arian, Arfonia, Cae Lloi a Charreg-lefn yn gyfarwydd iawn 芒 hi a'i chyfaill o Eglwysbach. Bo voyage. Bryner Jones