Er gwaethaf niferoedd y cyhoeddiadau sy'n crybwyll adar M么n, ni chafwyd llyfr cynhwysfawr sy'n s么n am statws hanesyddol a chyfredol adar y sir. Cafodd y llyfr hwn ei lunio i lenwi bwlch amlwg yn adareg Cymru. Nod y gyfrol hon yw:
Nodi unrhyw newidiadau yn statws adar; a thrwy hynny gynhyrchu cofnod archifol er mwyn ei gwneud hi'n haws cymharu yn y dyfodol.Yr awduron
Mae Peter Hope Jones MPhil., MLib., MIBiol., ALA, bellach wedi ymddeol o'i waith fel ecolegydd ac adarwr proffesiynol. Yn y Rhyl y cafodd ei addysg gynnar, ac yna Prifysgol Cymru ym Mangor ac Aberystwyth. Bu'n gweithio fel ecolegydd ym M么n, Meirionnydd a M么r y Gogledd (NCC) ac yn Ynysoedd Erch (RSPB). Treuliodd ei flynyddoedd olaf cyn ymddeol gydag NCC/CCGC ym Mangor, a bu'n byw ym M么n er 1983. Ysgrifennodd lawer o bapurau gwyddonol, dau lyfr am Ynys Enlli, Birds of Caernarvonshire (gyda Peter Dare), Birds of Denbigshire (gyda John Lawton Roberts) a Birds of Merioneth.
Mae Paul Whalley DSc., CBiol., FIBiol., MSc., BSc., F.R.E.S. yn entomolegydd proffesiynol a bu ganddo ddiddordeb mewn adar gydol ei oes. Teithiodd i bedwar ban byd gyda'i waith a bu'n gwylio adar ar bob cyfandir bron. Bu yn yr ysgol yn Llandudno, yna ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a threuliodd chwe blynedd ym M么n. Yn ogystal 芒 phapurau entomolegol, bu'n golygu Birds of Anglesey and Caernarvonshire (1954). Ar 么l treulio tair blynedd yn Nwyrain Affrica, bu'n gweithio am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn y Natural History Museum yn Llundain, cyn dychwelyd i F么n i ymddeol.
Adar M么n gan Peter Hope Jones a Paul Whalley. Cyhoeddwyd gan Menter M么n. 拢24.99 - 600 tud, dwyieithog gyda'r fersiwn Cymraeg gan Cen Owen.