Wedi torri eu dannedd ar y gwastadedd, ar y 10fed arweiniodd Gareth 'Edmund Hillary' Morgan, gyda chymorth Jean 'Tensing' Pleming y criw heibio Nant y Sebon ac o amgylch y llyn i ben Mynydd Bodafon.
Er mai ag Everest y cysylltir Hilary a Tensing, bu bron i ni feddwl mai yn yr Andes yr oeddem wrth basio y lamas ar y ffordd i lawr.
Roedd yr her wedi ei gosod
a'r wythnos ganlynol John 'Bonnington' Gwilym oedd yr arweinydd i ben Moel Siabod o gyfeiriad Daear Ddu.
Roedd y golygfeydd am Gastell Dolwyddelan a thros fwlch y Crimea a Llyn Trawsfynydd yn odidog a'r tywydd cystal (os nad gwell) nag unrhyw ddiwrnod o haf.
Fodd bynnag, dysgodd un aelod wers bwysig, sef nad y
ffordd fyraf yw'r un orau bob amser - 'dyw hi ddim yn braf cerdded efo sanau gwlyb!
Bu'n rhaid addasu'r daith ar y 24ain oherwydd y tywydd. Y bwriad gwreiddiol oedd mynd i ben Yr Eifl ac ymweld a Thre'r Ceiri.
Roedd gan fy nain ddywediad - 'Pan fydd Yr Eifl yn gwisgo'i chap, ni fydd fawr hap ar dywydd'.
Wel roedd Yr Eifl nid yn unig yn gwisgo'i chap, ond ei ch么t hefyd; felly taith ar hyd yr arfordir o Nefyn draw i Borthdinllaen ac yn 么l
trwy'r maes golff fu'r dewis.
A
thra roedd Yr Eifl yn dal o'r golwg yn y niwl roedd yr haul yn tywynnu wrth i ni aros am ginio wrth gwt y Bad Achub enwog.
|