Dydd Sadwrn, 8 Mawrth: Cyrraedd Buenos Aires yn saff tua 9 o'r gloch y bore (12 yma Buenos Aires 3 awr ar ein h么l). Allan o'r awyren ac roedd fel cerdded i mewn i bopty poeth a ninnau yn ein dillad gaeaf eleni! Fe oedd y bws mini yn ein disgwyl a diolch byth bod aer oer tu mewn iddi. Cymerodd awr i gyrraeddy gwesty Grand Hotel Orly. Mae Buenos Aires yn anferth o dref fawr, drost 12 miliwn o bobl yn byw yno. Roedd y ffordd o'r maes awyr i ganol y dref yn built up i gyd, adeiladau newydd ac rhai hen iawn hefyd, bob ochr i'r ffordd, gydag ambell i barc tlws hefyd a'r coed Jacaranda gyda'u blodau piws ymhobman. Roedd y ffyrdd i'r ddinas ac yn y ddinas yn llydan iawn. Ar 么l cyrraedd y gwesty, dad-bacio a.y.y.b. aethom allan i newid ein pres o ddoleri i Pesos, 4 dyn arfog ar ddyletswyd tu allan i'r lle newid araian. Buom yn ffonio gartref hefyd o'r Locutorios, y galwadau yn hynod o rad a'r lein mor glir. Mae dwyn yn ddrwg yn Buenos Aires. Cael cinio ac yna o gwmpas y siopau pethau mor rhad, digon o bethau lledr ar gael, pethau yn rhad i ni ond drud i'r bobl eu hunain, mae cyflogau mor isel yno. Cefais hufen i芒 blas lemwn a champagne - bendigedig! Allan am bryd o fwyd mewn bwyty moethus iawn gyda'r dynion yn unig yn gweini arnom a'r bwyd yn gr锚t ac yn rhad iawn. Dywedais wrth bawb am yr hufen i芒, pawb yn ei ordro a be gawson ni hanner glasiad o Champagne iawn ac hufen i芒 ynddo! Daeth hwn yn ffefryn mawr gan rhan fwyaf ohonom. Meic a Wil wrth eu bodd gyda'r Cidra (Seidr!) A dyna ni, ein diwrnod cyntaf yn y ddinas, brysur, swnllyd, hyfryd ond gyda lot o dlodi plant bach yn begera ar y strydoedd yma. (i'w barhau yn y rhifyn nesaf.)
|