大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Safle newydd cwmni William Roberts & Co Pennod newydd
Mawrth 2005
Roedd hi'n un o ddyddiau oera'r gaeaf pan gyrhaeddodd Papur Menai iard goed newydd William Roberts ger y Fourcrosses, Porthaethwy.
Ond 'doedd dim ond cam neu ddau o'r lle parcio hwylus i mewn i gynhesrwydd cyfforddus y siop.

Ie, clamp o siop newydd hwylus, yn gwerthu toreth o offer ar gyfer gwaith t欧 o bob math. Dewis helaeth o goed wrth law hefyd. Digon o le storio yn y cefn, melin goed wrth law, a chymorth parod y staff hefo penderfyniadau tyngedfennol.

Yn goron ar y cwbwl, dim angen mynd allan i'r glaw - mae cilfach lwytho gysgodol ar gael. Gyrru allan wedyn i Ffordd Pentraeth, mewn cylch hwylus, ac adre i orffen y job!

Mae'n si诺r bob pethau'n llawer mwy cyfforddus yma nag oedden nhw'n 么l yn 1810-1820, pan sefydlwyd y cwmni gan y brodyr Davies o Dreborth, i fewnforio pob math o nwyddau drwy eu cei eu hunain yn y Borth.

Cafodd y cwmni ei enw presennol tua 1860. Mae'n un o'r cwmn茂au mewnforio coed mwyaf hirhoedlog ym Mhrydain. Hyd yr 1970au roedd coed yn cael eu mewnforio'n uniongyrchol i'r Borth, nes aeth y llongau modern yn rhy fawr i'r Fenai.

Erbyn hyn, mae cangen o'r cwmni yn Nolgellau hefyd.

Darparodd y cwmni ddefnyddiau ar gyfer sawl prosiect mawr yng Ngogledd Cymru - fel Gorsafoedd P诺er Trawsfynydd a Dinorwig, ail-godi Pont Britannia, Ysbyty Gwynedd, gwaith ar yr ASS, adnewyddu Pier Bangor, a chadw'r m么r draw ym Mhwllheli.

Os nad yw'ch job chi mor fawr, peidiwch poeni, fe gewch chwithau bob cyngor a gwasanaeth siriol gan gwmni William Roberts.

Trowch i mewn i weld y ganolfan newydd - fe gewch groeso cynnes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy