大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Menai
Dewi Parry a'i filgi Milgi, Milgi!
Hydref 2005
Pencampwr Anhygoel Llandegfan
Mae Dewi Parry, Llandegfan i fyd hyfforddi c诺n rasio yr hyn ydi, dwedwch, Cefin Roberts i fyd hyfforddi perfformwyr llwyfan neu Alex Ferguson i fyd cadw t卯m p锚l-droed Man U ar frig eu camp hwy!
Dweud mawr, ond, yn wir dyna i chi ryw syniad o faint llwyddiant y Cymro Cymraeg, diymhongar hwn a'i g诺n mewn byd sy'n ddieithr i'r rhan fwyaf ohonon ni. Mae o'n fyd sydd er hynny yn denu miloedd o ddilynwyr yn wythnosol ac un sy'n gallu bod yn fusnes arian mawr i lawer.

Sut mae'r gamp yn gweithio 'te? Wel, yn syml, fel ym myd rasio ceffylau (ond mewn stadiwm bwrpasol) mae 'na drac rhedeg - tebyg i un i athletwyr - a phobl yn ceisio dyfalu tybed ydi'r ci a'r ci yn mynd i ennill. Os ydi hynny'n debygol, mae nhw'n rhoi swm o arian arno ar ffurf bet a cheisio gwneud mwy o arian iddynt eu hunain.

Mae na gynnwrf, a'r c诺n yn mynd i mewn i gaetsus bach ar y llwybrau ar ddechrau'r ras. Ar amrantiad mae blaenau'r (tua) chwe caets yn agor a'r chwe milgi yn rhedeg rownd y stadiwm, gan ddilyn 'sgwarnog', fecanyddol! Cynnwrf mwy fyth ac, wedi rhai cannoedd o lathenni o rasio, un milgi, gobeithio, yn croesi llinell fuddugoliaeth o flaen y lleill! Iawn?

Tlws Bu Dewi yn ddiwyd iawn yn hyfforddi ei g诺n rhedeg ers tua phymtheng mlynedd bellach. Caiff pob un eu trin fel aelodau llawn o'r teulu gan Heather, ei wraig ofalus ac yntau. Caiff pob ci fwyd da, ymarfer a llety diddos mewn cytiau cynnes. Mae'r ddealltwriaeth garedig, Gymraeg amlwg rhyngddynt yn eich taro chi'n syth. Cafwyd llawer llwyddiant ar lefel Gogledd Cymru a Glannau Merswy ond bob hyn a hyn mae na seren arbennig yn ymddangos.

Rai dyddiau'n 么l cefais gyfle i weld un o'r c诺n prin. Sooty ydi enw'r ast adre yn Llandegfan ond fel Moonshine y caiff ei hadnabod yn y cylchoedd rasio. Mae hi'n loywddu ac yn ddwy flwydd oed. Yng nghanol y nifer o g诺n dawnus eraill heddiw yn Erw Hywel mae hon yn sefyll allan. Mae'n curo'r gwrthwynebwyr yn gyson ac wedi cyrraedd y brig eleni wedi brwydro'i ffordd drwy'r grwpiau. O gr诺p A i B ac yna i C a'r top. Fis yn 么l roedd hi'n rhoi 14 metr o flaen (o start) i'r lleill mewn ras 460 metr trwy wahoddiad yn Ellesmere Port ac yn curo bob gafael. Enillodd y tlws pres hardd sydd yn y llun i Dewi ac yna adre i F么n wedi gwirioni.

Byddwn yn edrych ymlaen yn eiddgar i glywed am ragor eto o lwyddiant yn y dyfodol agos. Awydd bet fach? ... neu sgwrs a fideo am y rasio yn eich cymdeithas neu'ch cylch chi? Mae Dewi Parry ar gael.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy