Mae'n hawdd iawn gwneud petha' twpach na thwp tra'n reslo 'fo'r prysurdeb hwnnw. Tydwi ddim yn dyheu am fedal aur yn y Stiwpid Limpics, ond dwi'n reit si诺r 'swn i'n gallu cyrraedd y semi ffainals reit hawdd yn sgil am bell ddigwyddiad diweddar.
Y diwrnod o'r blaen, a finna' yng nghanol fy nhrobwll anhrefnus cymysglyd boreol arferol oedd hi'n amser rhuthro am y car i fynd i rwla i neud rwbath (tydwi'm yn cofio nac isio'ch diflasu 'fo'r manylion). I arbed cwpl o dripiau nol a
blaen penderfynais gludo llwyth dyn diog at y cerbyd.
Dyna lle'r oeddwn yn orlwythog, fel sherpa yn anelu am Camp 1 'r么l gadal Base Camp.
Ymlwybrais yn ara' gam wrth gam gan ofalu peidio gollwng dim o'r cargo.
A finna'n prysur agosau at y car a'r cyfle i orffwys fy mreichiau blinedig... drinnnng! drinnnnnng! Ffon y t欧!
Go drapia! be 'na i? 'Sa'n gallu bod yn bwysig... Primiym Bonds IIwyddiannus? Ennill gwyliau rwla ecsotic? neu rhywun yn gwneud arolwg am arolygon ffon?
Troi ar fy sowdl a hercian nol, gan drio brysio hynny gallwn gan ystyried fy maich afresymol. Wrth nesau at y drws ac ymbalfalu am y goriad 'swn i'n teuru bod y ffon yn gwaeddi 'Tu '!aen brysia! Tu' '!aen brysia!' arnai fel ryw anogaeth i'w ateb mewn pryd.
Bron yna. Hyrdlo dros deganau gwasgaredig ac angof ers amser brecwast y Cocoswyr Jiwniyr, a rhywsut agor y drws i'r gegin 'fo penelin a'r ffon yn dal i sgrechian arnai 'Tu '!aen atab!
Gyda llwyddiant o fewn gafael byrstiwyd fy mal诺n o foddhad yn syth pan sylweddolais mai fi oedd yn ffonio.
Rwla'n y 'cargo' (dal yn gyfa') 'oedd fy mobail di penderfyny chwara tric arnai a fy ngorfodi i ail greu ryw Its a Knockout teip giamocs ben bora. Aaaaaaaa! IDIOT!
Ryw dridiau'n ddiweddarach, penderfynais fanteisio ar y tywydd braf a rhoi sylw go hegar j'r rar' 'cw, am y tro ola' (gobeithio) cyn dyfodiad oerni a gwlypter y gaeaf i'n lIethu, a lIesteirio unryw awydd i fentro allan - '...dail!?..neith y pryfaid genwair sortie nhw...'.
Hefyd, o'n i am gyflawni fy nyletswydd cymunedol a lIenwi'r bin gwyrdd 'fo cynnwys diangen yr ardd - brigau, dail, baw cath drws nesa a hen deiars (na cha'i losgi
bellach).
Tydi'r bins ddim hannar digon mawr, 'sa sgips gwyrdd yn fwy defnyddiol 'cw.
Ond yn ffodus tydi'r cymdogion heb roi copsan i mi hyd yn hyn yn sleifio min nos i gymryd mantais o'u bins hwythau.
Y cam cynta rhaid cwbwlhau ydi Defod Y Wellingtons, sef gwneud yn siwr nad oes 'na'm byd wedi ymgartrefu ynddynt
tra'r oeddent wedi eu hesgeuluso ers wsnosa tu allan i drws
cefn.
Rhaid sicrhau'n bennaf nad oes math arbennig o bry cop yn lIechu yno, y Bootspider (Goglaisa oooithcoesa neith gosi'ch traed yn ddidrugaredd nes ildiwch a gwaeddi 'Sybmit' digon uchel iddo yntau a'ch cymdogion conffiwsd glwad, byddwch yn wyliadwrus!
Hefyd rhaid ogleuo'r bwts i jecio na tydi cathod y fro ddim wedi eu camgymryd am gyfeustera' cyhoeddus.
'Na chi ogla anodd ei anghofio.
Chydig flynyddoedd nol ges i ryning battl 'fo cath goch drws nesa am sbel.
Oedd o'n meddwl y cai b卯p卯 be y mynno yn rar cw, (yn enwedig ar unryw esgid neu welingtons y bues digon twp i'w gadael allan) o'n i'n anghytuno.
Setlwyd y mater drwy ddirgel ffyrdd - gwn d诺r, sudd lemon a tueddiad cathod i gerdded ar hyd waliau 'fo'i cynffonau yn yr awyr. Miaaaaaaaaaw!
Yn 么l at y twpdra... penderfynais glirio cornel digon disylw o'r rhedyn oedd yn dechrau domineiddio.
Byddai gwisgo menyg wedi bod yn fantais, a wedi f'arbed rhag torri fy llaw
cyn waethed. Aaaaaaw!
Rhyw dorriad sych, p锚pyr-cyt teip o anaf a'r sdwff coch yn tasgu.
Felly taim-awt o'r lol garddio tra'r es i ymofyn plastar.
Cofiais gadw fy mraich fyny wrth i heglu hi am bocs ffyrst ed (wedi dysgu rwbath yn y tair wsnos fues i'n boisgowt ma raid), yn edrych fel plentyn isio caniatad i fynd i'r lle chwech 'rol rhoi ei fys yn y miniwr pensals.
Cyrraedd diogelwch cysurol y gegin, ymhell o beryglon y jwngl 'na tu allan ac er bod un fraich 'fo ryw osgo 'Heil Hitler'
braidd, llwyddo i agor y bocs
. Ond yn fy nryswch byr-wyntog rois i Bonjela yn lle Savlon ar y briw amrwd. Aaaaaaa, Twpsyn.
Yn arwrol bron a phaced cyfa bron o Elastopla yn addurno fy lIaw dychwelais i drio gorffen be' ddechreuais.
Wedi cwpl o oriau'n chwysu a thuchan tra'n sdrumio a (er gwaetha'r anaf), roedd rhaid mynd i 'rafael a'r toman o gytings gwrychoedd fu'n syllu arna i yn haerllug drwy'r haf fel pebai'n fy herio - 'We!? pryd ti'n mynd i fy symud? Sbia bIer dwi!'.
Bu'n ais么r garddol ers y ffyrst cyt rois i'r triffid o wrych 'cw tua Pasg.
Felly roedd bellach yn gosach at John Innes na th么piari.
Dwn i'm beth oedd fy mwriad, ei symud i rwla o'r golwg debyg.
Prin mod i 'di trosglwyddo dwy forchiad i'r Iwmp o rwd arferai fod yn ferfa pan sylwais ar symudiad ynghanol y doman.
Hmmm? ...oedais, cyn estyn lawr a chodi lIond lIaw o'r hen frigau pydredig...rargian!
Dwi'n si诺r mod i wedi neidio fyny ac yn 么l troedfedd a hanner go dda.
Beth oedd yno'n syllu arnai'n
hamddenol o'i guddfan tywyll, tamp a budr?... y llyffant
du/broga boliog a mwya' bodlon yr olwg weles i erioed.
Moment o r么l-rifyrsal oedd o, fi nath y neidio.
O'n i wedi styrbio ei Nirfana personal lle roedd gwlithod, pryfaid genwair a phryfetach o bob lIiw a llun i gyd o fewn gafael iddo - fatha 'sa Pavarotti 'di byw mewn siop cr卯m c锚cs.
Edrychai'n hynod hapus, fel mochyn mewn... ymmm, mwd.
Fi darfodd ar ei diriogaeth felly gadewais lonydd iddo.
Ond wrth i mi ei ail orchuddio 芒'r brigau 'swn i'n teuru'i fod wedi edrych arna' a fy llaw clwyfedig a golwg dirmygus ond eto
tosturiol ar ei wep amffibiaidd ac yngan
dan ei wynt '...Twpsyn'.