Mynychodd Branwen Ysgol Gynradd y pentref, lle ysgrifennodd ei drama lwyfan gyntaf, ac yna Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Aeth ymlaen i astudio actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae hi bellach wedi ymgartrefu yn y Brifddinas.
Ar 么l cyfnod yn actio aeth Branwen i Brifysgol Bangor ac enillodd radd M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol gan ganolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Yn dilyn hynny cyd-ysgrifennodd y ddrama Dominos i Theatr Genedlaethol Cymru, a bellach mae'n rhannu'i hamser yn sgriptio a gweithio fel Cynorthwy-ydd Llenyddol yn Sherman Cymru.
Cyd-ysgrifennodd Branwen ddrama o'r enw The Exquisite Corpse a berfformiwyd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd y llynedd. Bydd y ddrama hon yn cael ei pherfformio yng Ng诺yl Caeredin eleni. Mae Branwen ar hyn o bryd yn sgriptio penodau o'r gyfres deledu Caerdydd i Fiction Factory. Fel y soniwyd eisoes, hi enillodd y Tlws Ddrama llynedd gyda'r ddrama Dyma Deulu Dedwydd a gafodd ei pherfformio yn Theatr Fach Llangefni yn yr hydref.
Mae Branwen a thri arall newydd sefydlu cwmni drama newydd o'r enw Torri Gair. Bydd eu cynhyrchiad cyntaf Yr Argae, cyfieithiad Wil Sam o ddrama boblogaidd The Weir, gan Connor McPerson, yn cael ei pherfformio yn Theatr y Sherman yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yna bydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru.
Roedd Branwen yn falch o ddod adref i ennill y Tlws Drama yn Llandegfan, ac mae'n diolch i bobl y pentref, yn enwedig y cwmni drama lleol, am eu cefnogaeth. Cafodd lot fawr o hwyl yn y gorffennol yn cyfarwyddo eu dram芒u, ac mae'n edrych ymlaen i weld perfformiad o'i drama newydd gan y cwmni y flwyddyn nesaf.
|