Rhowch ychydig o'ch cefndir i ni (addysg / swydd cynnar a.y.y.b):
- . Cefais fy ngeni a'm magu ar fferm yng Nghwm Cerist, wrth droed Bwlch yr Oerddrws ym Meirionnydd. Ar 么l cyfnod o bedair mlynedd fel myfyrwraig ym Mangor bu^m yn dysgu mewn gwahanol Ysgolion Cynradd yng Ngwynedd cyn treulio amser difyr yn y Swyddfa Addysg yn Llandudno. Yna, wedi cyfnod cymharol fyr tel Prifathrawes yng Nghonwy ymunais ag Ysgol Llanllechid.
Eich gwaith:
. Pritathrawes Ysgol Llanllechid, Bethesda, sy'n ysgol hapus,
fyrlymus o dros ddau gant o blant.
Be fyddai eich swydd ddelfrydol?:
-
. Cynllunydd mewnol (oes yna derm arall sy'n well am
interior designer'?)
Eich diddordebau?
-
. Darllen yn enwedig hunangofianau, dringo mynyddoedd, ffermio, garddio, carafanio - yn enwedig gyda fy ffrindiau yn Ffrainc, a lIawer mwy pan fo amser yn caniatau!
Ers pryd ydach chi'n byw yn yr ardal?:
Y pethau gorau am yr ardal hon?:
-
Ei phobol yn bendant... tirwedd, ysgolion. (Mae fy merch yn mynychu Ysgol Parc y Bont ac yn mwynhau pob munud yno). Pridd day ma hefyd I dyfu tatws a moron!
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?:
-
Fedrai ddim meddwl am ddim byd!
Dylanwad mwya arnoch (+ pam) ?:
-
Fyn ain. Roedd hi'n ddynes ddawnus gyda chof anhygoel, oedd wedi gweld caledi difrifol ym more oes. Gwraig siriol, parod ei gw锚n a'I chymwynas a chyn ei hamser rhywsut.
Gwyliau delfrydol:
-
Ystod eang yn plesio... yn yr eira neu'r haul crasboeth - unrhyw le lle rwy'n gallu ymlacio'n braf.
Pryd a lle ydach chi hapusaf?
- Adref gyda fy nheulu yn eistedd yn y cwt haul yn edrych ar fynyddoedd Eryri neu yn cerdded yr hen lwybrau ym Meirionnydd.
Eich arwyr (+pam)
- Ray Gravell: gwladgarwr acam ei frwdfrydedd; Nelson Mandella: cryfder meddyliol aruthrol.
Y cyngor gorau gawsoch chi erioed? )
Enw'ch dri person yr hoffech chi gael eu cwmni dros ginio (+pam) )
- Barak Obama - I gael mewnolwg i'w gefndir a'i ddawn wleidyddol; Meryl Streep - fy hoff actors; a hefyd Maureen Rhys a John Ogwen. !
Sut fyddwch chi'n ymlacio? )
- Wrth fynd 芒'r c诺n am dro.
Beth yw eich barn am Papur Menai?
- Mae o'n wych! Edrych ymlaen at gael fy nghopi o Siop yr Efail, Llanddaniel bob mis.
|