Ysgrifennodd Owain Si么n, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll at awdur cyfres Alun yr Arth yn gofyn iddo lunio'r stori nesaf yn y gyfres am y Frig芒d D芒n. Derbyniodd Morgan Tomos yr her, a ffrwyth y gwaith yw Alun yr Arth a'r Tan Mawr.
Mae Alun yn dysgu'r rheolau diogelwch a sut i wneud galwad ff么n 999 ac mae'n cael achos i ffonio'r frig芒d dan pan mae fflamau'n cynnau wrth gael barbaciw yn yr ardd. Yn 么l Morgan, "Mae Alun yr Arth yn gymeriad llawn hwyl ac yn mynd i drafferthion yn aml. "Ond diolch i Owain Si么n cawn weld bod Alun yn gwybod yn iawn i beidio chwarae 芒 th th芒n. "
Aeth Morgan ac aelodau o Wasanaeth Tan ac Achub, Gogledd Cymru i Ysgol Llanfairpwll i gyflwyno copi o'r gyfrol ac un o'r lluniau wedi'i fframio i Owain. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar ddiogelwch t芒n yn yr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion o
beryglon t芒n yn y cartref. Roedd Owain Si么n wrth ei fodd. Meddai, "Mae'r llyfr yn wych. Rwyf wrth fy modd ag Alun yr Arth. Mae'n bwysig bod yn ofalus a dysgu'r rheolau t芒n ac mae'n gr锚t bod dynion tan go iawn a Morgan Tomos wedi
dod i'r ysgol. "
Dywed Neil Gallagher, Rheolwr Diogelwch dros Ynys M么n, "Mae ymroddiad plentyn fel Owain i ddiogelwch tan yn ysbrydoliaeth i ni.
" Braf o beth fyddai gweld holl drigolion M么n mor gydwybodol ac ymwybodol o'r peryglon ag Owain! "Rhan bwysig o'n gwaith ni yw addysgu pobl yngl欧n a sut i atal tanau yn y lle cyntaf. Bydd Alun yr Arth a'r Tan Mawr yn modd i ni gael y neges at blant Cymru ac felly codi ymwyddyddiaeth teuluoedd cyfan."
|